Cyllid
Rydym yn cynnig grantiau bach o £150 rhwng mis Mehefin 2020 a mis Ebrill 2021. Nod y grantiau yw cefnogi gweithgareddau tyfu, coginio a rhannu bwyd a digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd dan arweiniad cymunedau.
“Bu teuluoedd yn ddiolchgar iawn am y cyswllt a’r cymorth gan fod hynny nid yn unig yn helpu’r unigolyn, ond gweddill aelodau’r cartref neu’r rhwydwaith cymorth hefyd.”
Christine Falconer, Hyfforddwr Garddwriaethol yn Parklea Branching Out.
Ydy fy mhrosiect yn gymwys?
Rydym yn edrych am brosiectau bwyd cymunedol sydd:
- â’r potensial i fod yn brosiect hirdymor
- yn cael ei arwain gan y gymuned
- yn cynnwys pobl o gymunedau difreintiedig ac amrywiol
- yn dod a phobl at ei gilydd
- yn lleihau’r profiad o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol
- yn annog agwedd gadarnhaol tuag at heneiddio ac amrywiaeth
- yn gallu bod yn rhithwir neu’n gallu cael ei gynnal ar-lein.

Pwy sy’n gallu gwneud cais?
- Lloegr: Birmingham, Stoke on Trent, Walsall, Dinas Caerlŷr, Swydd Gaerlŷr, Dinas Nottingham, Hull, Calderdale, Kirklees, Sheffield
- Cymru: Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro
- Gogledd Iwerddon: Rhanbarth Belfast, Fermanagh ac Omagh, Rhanbarth Newry, Mourne a Down
- Yr Alban: Glasgow, Inverclyde, Caeredin

Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Nid yw’r grant ar gael i grwpiau a lleoliadau nid-er-elw. Os ydych am gynnal digwyddiad Dewch at Eich Gilydd gyda phobl o aelwydydd neu eich cymdogaeth, bydd angen i chi wneud cais am y grant drwy grŵp nid-er-elw sydd â’i gyfrif banc ei hunan.
Mae’r dyddiadau cau ar gyfer y cylchoedd gwneud cais wedi’u nodi yn y ffurflen gais. Rydym yn cadw’r hawl i gau cylchoedd gwneud cais yn gynnar os ydym wedi derbyn gormod o geisiadau.
