Fideo sy’n dangos sut i goginio daal Eritreaidd
Fideo sy’n dangos sut i goginio daal Eritreaidd
Fideo gan Negat sy’n dangos sut i goginio ar YouTube yma
Bydd angen y canlynol (i wneud 6-7 pryd)
- 2 llond cwpan o gorbys – corbys coch yn ddelfrydol, ond mae mathau eraill yn addas hefyd
- 5 llond cwpan o ddŵr
- 1 winwnsyn/nionyn canolig, wedi’i dorri
- 3 llwy de o olew olewydd
- 1 llwy de o halen
- 1 tun 400g o domatos, wedi’u torri
- 1 llwy fwrdd o bast tomato
- 3 ewin o arlleg, wedi’u torri’n fân
- 3 llwy de o berbere (cymysgedd o sbeis Eritreaidd. Os nad yw hwn ar gael, gallwch ddefnyddio 2 tsili gwyrdd).
- 2 lwy de o hadau cumin
- 1/2 llwy de o bowdr pupur du
- 1 llwy de o hadau cornfeillion (fenugreek) (neu’r un faint o hadau mwstard)
- 1/2 llwy de o bowdwr coriander
- 1/2 llwy de o wreiddyn sinsir ffres wedi’i dorri’n fân neu 1 llwy de o wreiddyn sinsir sych
- 1/4 llwy de o dyrmerig
- Un bag mawr o ddail ysbigoglys