Two young people wearing school uniforms and an older person smiling at the camera

Digwyddiadau

Efallai fod gweithgareddau Dewch at eich Gilydd yn edrych ychydig yn wahanol ar hyn o bryd, ond mae llawer y gallwch ei wneud ar-lein a thra byddwch yn cadw pellter cymdeithasol.

Digwyddiadau

Lansiwyd yr ymgyrchoedd Coginio a Rhannu a Plannu a Rhannu i hyrwyddo digwyddiadau tyfu, coginio a rhannu er mwyn dod â phobl ynghyd o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau.

Ers eu lansio yn 2021 mae’r ymgyrchoedd wedi tyfu’n sylweddol ac maent yn bellgyrhaeddol, gan gyrraedd cymunedau, unigolion, teuluoedd, ysgolion, a lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Nod syml sydd i'r ymgyrchoedd, sef dod â phobl ynghyd drwy blannu, rhannu a choginio bwyd gyda'i gilydd. Mae'n hawdd cymryd rhan ynddynt ni waeth beth rydych yn chwilio amdano, o lawrlwytho un o’r llu o adnoddau thematig i gael ysbrydoliaeth ar gyfer digwyddiad neu weithgaredd, i syniadau a chanllawiau ar sut i redeg eich digwyddiad cymunedol eich hun, mae rhywbeth i bawb a phob grŵp, boed fach neu fawr, boed yn brofiadol neu’n newydd i goginio neu dyfu.

Plannu a Rhannu

Mae Plannu a Rhannu, sy'n cael ei gynnal drwy gydol y gwanwyn, yn ymwneud â thyfu planhigion a rhannu’r hoffter o dyfu planhigion, neu'r cynnyrch sy'n deillio o hynny gyda ffrindiau, teulu, cyd-ddisgyblion, athrawon, grwpiau cymunedol neu hyd yn oed rywun nad ydych erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen ond sy’n rhannu'r un diddordeb.

Yn para am gyfnod o fis yn ystod Ebrill - Mai, yn 2023 amcangyfrifwyd bod 46,000 o bobl wedi mynychu digwyddiad plannu a rhannu ledled y wlad, a gwelwyd y nifer fwyaf erioed o gofrestriadau ar draws amrywiaeth helaeth o ardaloedd, o erddi cymunedol, i lyfrgelloedd gyda gwenynfa, grwpiau cymunedol yn tyfu bwyd Affricanaidd yn Birmingham a Chaerdydd, a'r llu o ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar a feddiannodd eu gerddi gyda'u neiniau a'u teidiau ar gyfer Wythnos Garddio Neiniau a Theidiau.

Coginio a Rhannu

Ymgyrch yr hydref sy'n anelu at ddod â phobl at ei gilydd mewn gwledd o goginio a rhannu gweithgareddau ar gyfer y nosweithiau rhwng mis Hydref a mis Tachwedd. Gyda'r nod o wneud y gorau o’r cynnyrch sy’n cael ei gynaeafu o ddigwyddiadau plannu a rhannu yn y gwanwyn, neu helpu gyda syniadau ynglŷn â beth i’w wneud gyda phwmpenni dros ben ar ôl Calan Gaeaf, neu ryseitiau hydrefol blasus a maethlon ar gyllideb fach, mae adnoddau a phecynnau gweithgareddau, y gellir eu lawrlwytho am ddim, ar gael i bawb eu mwynhau.

Mwy o fanylion am Coginio a Rhannu 2023

Cinio Ysgol Am Ddim i Bawb - Just Say Yes

Fel Bwyd am Oes credwn y dylai pob plentyn gael pryd iach a chynaliadwy bob dydd, ac eto mae tua 800,000 o blant yn Lloegr sy'n byw mewn tlodi nad ydynt yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim. Rydym wedi ymuno â Sustain yn ei ymgyrch Just Say Yes i alw ar y llywodraeth i wneud mwy i gefnogi’r teuluoedd hyn.

Mwy am ein cefnogaeth i'r ymgyrch i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb

Bwydydd Wedi'u Prosesu'n Helaeth

Fel rhan o'n cenhadaeth i hyrwyddo deiet iach a chynaliadwy ledled y wlad, rydym wedi bod yn cefnogi ein cydweithwyr yng Nghymdeithas y Pridd yn eu hymgyrch ar Fwydydd wedi'u Prosesu'n Helaeth i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r niwed y gall y bwydydd llechwraidd hyn ei achosi. Mewn gwlad lle mae 65% o ddeiet ein plant, a thros 50% o’n basgedi siopa yn cynnwys y bwydydd hyn, mae’n hollbwysig i ni ddeall beth ydyn nhw a sut i'w hosgoi.

Yn ôl i’r brig