Two women sitting chatting together while enjoying a meal at a busy event

Y Cinio Mawr

5 - 6 Mehefin 2021

An older person and a child in school uniform enjoying a meal together

Y Cinio Mawr

Mae’r rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn ymwneud â dod a phobl ynghyd drwy ddefnyddio grym bwyd da. 

Y Cinio Mawr yw penwythnos diolchgarwch y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau – adeg pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu cysylltiadau cymunedol ac i ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well.

Yn dilyn y Mis Plannu a Rhannu, mae’r Cinio Mawr yn gyfle gwych i ddod â’ch cymuned leol ynghyd ac i ymfalchïo mewn unrhyw gnydau a dyfwyd fel rhan o ddathliadau Mis Cymunedol yn ysod mis Mehefin.

Yr Effaith Fawr

Mae’r Cinio Mawr yn gynhwysol ac yn groesawgar. Mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r llefydd rydym yn byw a sut rydym yn teimlo amdanynt. Dyma sut:

  • Daw oddeutu 6 miliwn o bobl o bob ffydd, oedran, ethnigrwydd a chefndir at ei gilydd bob blwyddyn ar gyfer Y Cinio Mawr
  • Dywedodd 91% o fynychwyr eleni fod Y Cinio Mawr yn ddigwyddiad perffaith i bobl yn ystod cyfnod y Coronafeirws
  • Gwnaeth 7 miliwn o bobl ffrind newydd o ganlyniad i’r Cinio Mawr yn 2019
  • Dywedodd 5 miliwn o bobl fod Y Cinio Mawr wedi’u helpu i deimlo’n llai unig

"Roedd hwn yn ddiwrnod gwirioneddol wych a ddaeth â chymuned ein hysgol at ei gilydd." Deborah (Cinio Mawr Ysgol Feithrin Gymunedol a Babanod Inglewood) 

Awgrymiadau gwych i ysgolion a meithrinfeydd

Mae’r Cinio Mawr yn gyfle gwych i ysgolion a meithrinfeydd ddathlu bwyd da a hyrwyddo cysylltiadau cymunedol drwy gynnal digwyddiad Dewch at Eich Gilydd.

Gallwch ddefnyddio gweithgareddau Dewch at Eich Gilydd i ddathlu llwyddiannau, codi arian neu helpu i ddatblygu cymuned yr ysgol. Mae ysgolion yn aml yn cynnal Y Cinio Mawr cyn neu ar ôl penwythnos swyddogol Y Cinio Mawr (5-6 Mehefin 2021).

Mae gan Y Cinio Mawr adnoddau pwrpasol sy’n eich galluogi i gynnwys eich Cinio Mawr yn hawdd yn eich cynlluniau gwersi.

Digwyddiadau Diogel yn ystod Covid

I gael y canllawiau diweddaraf ynglŷn â chynnal digwyddiad diogel yn ystod covid, edrychwch ar yr adnodd hwn.

Cofrestru

Drwy glicio ar y botwm ‘Cofrestru Heddiw’ isod, cewch eich cyfeirio at wefan yr Eden Project i gofrestru ac i dderbyn eich pecyn adnoddau am ddim.

 

Yn ôl i’r brig