
Mis Plannu a Rhannu
Ydych chi’n barod i ledaenu’r pleser a ddaw yn sgil tyfu bwyd gartref gyda’r gymuned?
Ymgyrch mis o hyd yw Plannu a Rhannu sy’n cael ei chynnal ledled y DU i annog pob un ohonom i fynd allan i’r ardd, y rhandir neu’r llain llysiau.
Rhwng 20 Ebrill a 20 Mai, rydym yn annog y genedl i balu ac i hau, i dyfu ac i rannu.
Yn ogystal â helpu cymunedau i ddod at ei gilydd unwaith eto, mae Plannu a Rhannu yn ffordd wych o ailgysylltu â tharddiad ein bwyd, ac i gefnogi ein hamgylchedd.
Dyma sut i gymryd rhan
P’un a ydych yn grŵp cymunedol, yn glwb ar ôl ysgol, yn glwb ieuenctid neu’n grŵp ffydd, beth am gynnal gweithgaredd Plannu a Rhannu?
- Anfonwch wahoddiad at bobl i’ch digwyddiad Plannu a Rhannu
- Plannwch eich hadau – dyma sut i uwchgylchu esgidiau glaw!
- Helpwch yr hadau i dyfu - darllenwch sut yr aeth y grŵp hwn ati i helpu pobl i dyfu bwyd mewn man gwyrdd bach
- Rhannwch yr eginblanhigion, neu’r ffrwythau a’r llysiau! Dwedwch wrthym gyda phwy y gwnaethoch eu rhannu ar Facebook neu Twitter gan ddefnyddio #FFLGetTogethers
Cymorth ac adnoddau
Gall pawb gymryd rhan – ac mae digon o adnoddau am ddim ar gael i gynnal eich gweithgaredd tyfu nesaf yn llwyddiannus.
- Lawrlwythwch ein Pecyn Cymorth Mis Plannu a Rhannu i gael awgrymiadau ar sut i dyfu bwyd
- Ymunwch â’n cymuned ar Facebook i gyfnewid awgrymiadau a syniadau
- Cymerwch ran yn ein hyfforddiant ar-lein am ddim er mwyn rhoi hwb i’ch sgiliau
Digwyddiadau Diogel o ran Covid
I gael y canllawiau diweddaraf ar gynnal digwyddiad diogel o ran Covid, edrychwch ar yr adnodd hwn.
Cofrestru