Sut i fwynhau Ramadan ac Iftar yn ystod y cyfnod clo
Mae’r cyfnod clo yn effeithio ar sut mae pobl yn bwyta bwyd. Mae pobl yn cyfyngu ar eu teithiau i’r siopau ac ni allant ddod o hyd i’r hyn sydd ei eisiau arnynt bob tro pan fyddant yno. Mae pobl yn gorfod coginio iddynt hwy eu hunain yn fwy aml nag o’r blaen a bod yn greadigol gyda pha fwyd y maent yn ei fwyta.
Fodd bynnag, i rai, bu her ychwanegol i’w goroesi: Sut mae dathlu Ramadan, ac Iftar yn enwedig (y pryd gyda’r nos sy’n torri’r ympryd), yn ystod y cyfnod clo?
Dyma sut mae Wafa, trefnydd Gŵyl ‘The World Transformed’, yn ei ddisgrifio: “Mae Ramadan yn ymwneud fwyaf â’r gymuned ac mae Iftar yn ganolog i hynny. Y rhan fwyaf cŵl ohono yw eich bod wedi’ch cysylltu â phob person Mwslimaidd ledled y byd, i gyd yn bwyta ar yr un pryd. Mae’n gyfle gwych i ddod ynghyd a bwyta gyda’n gilydd gyda’r teulu a ffrindiau.”
Pwysleisiodd Wafa bwysigrwydd bwyd gan ddweud:
“Mae bwyd yn rhan bwysig iawn o Ramadan - yn enwedig samosas a phakoras. Mae fy mam yn dod o Syria a fy nhad o Bacistan, felly mae gennym gyfuniad eithaf eang o fwyd fel arfer.”
Bydd y prydau hyn yn cael eu bwyta gyda’r teulu a ffrindiau fel arfer ond, eleni, dim ond hi a’i mam fydd gyda’i gilydd. Maen nhw’n gwneud yn siŵr eu bod yn sgwrsio ar fideo gyda’i brodyr a’i chwiorydd er mwyn torri’r ympryd gyda’i gilydd, ond “nid yw yr un fath”. Gan mai dim ond y ddwy ohonynt sydd, maen nhw wedi lleihau maint eu prydau Iftar oherwydd “nid yw’n ymarferol yn ariannol cael amrywiaeth mor fawr o fwydydd”. Ond mae hi’n gwneud yn siŵr ei bod yn coginio cwpl o samosas bob nos “oherwydd mae samosas yn gwneud i’r cyfnod deimlo fel Ramadan”.
Bu’r cyfnod clo yn fwy heriol i eraill. Mae Matthew, sy’n gweithio i undeb llafur, wedi troi at Islam ac mae yn ei ail flwyddyn o ymprydio, a dywedodd “mae diffyg trefn arferol wedi gwneud yr holl beth yn llawer anoddach. Y llynedd, roedd hi’n braf cael pobl draw ar gyfer Iftar. Fe wnaeth yr Iftar Mawr (digwyddiad cymunedol mawr sy’n cael ei gynnal yn Easton, Bryste) fy helpu yn arbennig oherwydd roedd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato a gwnaeth i mi deimlo fy mod yn rhan o’r ymdrech anferth hwn ar y cyd.”
Mae Matthew wedi llwyddo i ddathlu er hynny “Rwyf wedi cael Iftar yn ystod cwis tafarn ar nos Sadwrn bob wythnos ac rwy’n meddwl am wneud un i ddathlu Eid, ond nid yw'r un fath heb bobl eraill sy’n ymprydio hefyd”.
I Wafa, mae’r cyfnod clo wedi newid y profiad o Ramadan yn fawr. Dywedodd wrthyf, fel arfer, fel person Mwslimaidd sy’n ymprydio ym Mhrydain, “mae bod yn un o’r lleiafrif lle mae ein harferion crefyddol yn arferion lleiafrifol, yn ei gwneud yn anoddach i ni eu cynnal”. Fodd bynnag, eleni, mae bod gyda’i Mam yn unig, sydd hefyd yn dilyn y grefydd Fwslimaidd “wedi gwneud ymprydio yn brofiad llawer mwy pleserus”. Un o brif syniadau ymprydio, eglurodd Wafa, yw “Pan rydych yn teimlo’n llwglyd, rydych yn deall y syniad o beidio â chael bwyd ac yn meddwl am y rhai sy’n llai ffodus na chi. Yn sgil y cyfnod clo, rwyf wedi cael amser i ganolbwyntio o ddifrif ar ymprydio oherwydd does dim gweithgareddau eraill yn digwydd”.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i drefnu digwyddiad Dewch at Eich Gilydd? Cofrestrwch heddiw!