Telerau ac Amodau'r Grant
Y gofynion ar gyfer gwneud cais
- Byddwn yn gwrthod unrhyw geisiadau am grant lle nad oes cyfrif banc gan sefydliad neu grŵp cymunedol i drosglwyddo'r grant iddo.
- Os ydych wedi derbyn grant bach o'r blaen, ni allwch ailymgeisio, ond gall sefydliadau partner/lleoliadau yr ydych yn gweithio â nhw wneud cais.
- Dim ond un grant y gallwn ei ddyfarnu i bob sefydliad. Er enghraifft, os ydych yn sefydliad cenedlaethol ond bod gennych ganghennau rhanbarthol a bod un gangen yn derbyn grant, ni all canghennau eraill wneud cais.
- Rhaid i chi gofrestru'ch gweithgaredd arfaethedig drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Cofrestru Digwyddiad’ ar ein gwefan pan fyddwch yn gwneud cais. Sign up | Food for Life Get Togethers (fflgettogethers.org)
- Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau sy’n cynnwys hyrwyddo unrhyw sefydliad corfforaethol, gweithgareddau gwleidyddol neu gredoau crefyddol. Byddwn yn ystyried prosiectau sy’n cael eu harwain gan sefydliadau crefyddol os ydynt nhw er budd y gymuned gyfan.
- Ni fyddwn yn ystyried prosiectau sydd eisoes wedi digwydd neu a fydd wedi dod i ben cyn y gellir talu'r grant.
- Rhaid i weithgareddau'r cais gefnogi ein Digwyddiad Plannu a Rhannu (Ebrill-Mai 2022).
Gwario’r grant
- Ni ellir trosglwyddo'r grant i drydydd parti arall.
- Dim ond at y dibenion a amlinellwyd gan eich sefydliad yn eich cais am y grant y gallwch ddefnyddio’r grant, fel y’u cymeradwywyd gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes. Rydym yn deall bod gweithgareddau'n newid weithiau wrth iddynt ddatblygu neu ei bod yn bosibl y byddant yn cael eu canslo. Os nad ydych yn gallu defnyddio’r grant at y diben penodol y’i bwriadwyd a bod newidiadau sylweddol yn debygol o gael eu gwneud, cysylltwch â ni cyn gwario unrhyw ran o’r grant.
- Rhaid gwario'r grantiau o fewn 6 mis i'w derbyn.
- Byddwn yn cynnal gwiriadau diogelu ariannol ar sampl o ymgeiswyr llwyddiannus. Felly, gofynnwn am yr hawl i gael prawf prynu ar ffurf derbynebau. Byddwn yn disgwyl gweld y derbynebau o fewn 14 diwrnod gwaith o’r dyddiad y gwnaed cais amdanynt.
Gwerthuso a’r wasg
- Rydym yn disgwyl i unrhyw ddatganiadau i’r wasg sy’n cyfeirio at y gwaith a ariennir gael eu hanfon ymlaen at Dîm Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes.
- Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd ynghylch y gweithgaredd a ariennir drwy’r grant gyfeirio at ddigwyddiadau Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
- Byddwn yn anfon arolygon gwerthuso atoch ar ôl eich gweithgaredd a byddwn yn disgwyl i chi eu cwblhau. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan mewn astudiaeth achos neu i gael diweddariadau pellach ar ôl i'r prosiect ddod i ben.
Arall
- Byddwn yn gofyn i chi ad-dalu’r grant os byddwch yn mynd yn fethdalwr neu os bydd y cwmni’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, yn mynd i law’r derbynnydd neu’n cael ei ddiddymu.
- Os na fydd eich sefydliad yn bodloni’r holl ofynion a nodir yn y ddogfen hon, yna rydym yn cadw’r hawl i adennill peth o’r grant, neu’r grant llawn, ar unrhyw adeg.
- Mae diogelwch pawb sy’n mynychu eich digwyddiad Dewch at Eich Gilydd yn hynod bwysig. Defnyddiwch bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad i sicrhau eich bod yn meddwl am y risgiau cysylltiedig, gan gynnwys diogelu plant neu bobl ifanc neu oedolion sy’n wynebu risg sy’n mynychu eich digwyddiad.
Ystyriaethau Iechyd a Diogelwch
- Sicrhewch eich amser yn dilyn canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar COVID 19 bob amser. Canllawiau ar gyfer gwledydd penodol: Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban.
- Sicrhewch eich bod yn dilyn canllawiau a chyngor diweddaraf y Llywodraeth ar COVID 19 bob amser.
- Os ydych wedi recriwtio gwirfoddolwyr newydd yn ddiweddar neu'n defnyddio gwirfoddolwyr presennol, darllenwch a chyfeiriwch unrhyw wirfoddolwyr at ganllawiau'r Llywodraeth 'How to help safely' (Adrannau 1, 3 a 7 yn benodol). Am fwy o gyngor, ewch i wefan NVCO.
- Mewn unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â bwyd, dylech ddilyn Canllawiau diweddaraf yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Gofynnwn i chi beidio â hyrwyddo na rhoi unrhyw gyngor meddygol.
- I gael cyngor ar y Rheoliad Cenedlaethol ar Ddiogelu Data (GDPR) a diogelu data yn ystod eich ymateb, gweler yr adran 'Diogelu Data' ar wefan NVCO i leihau risg.