Ein Heffaith a’n Gwaith Ymchwil

Gallwch weld ein holl adroddiadau effaith a’n gwaith ymchwil diweddaraf yma

Gweithiodd y rhaglen Dewch at Eich Gilydd ochr yn ochr â dau bartner academaidd cenedlaethol, sef Prifysgol Cofentri a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, i fonitro a gwerthuso gwahanol rannau o'r rhaglen. O effaith grantiau bach, hirhoedledd Fy Nghymuned Fwyd, a chyrhaeddiad y Digwyddiadau Rhwydwaith a gweithgareddau ymgyrchu, mae cyfoeth o wersi a gwybodaeth isod. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb fanteisio arnynt a'u defnyddio i helpu i lunio rhwydweithiau a threfnu digwyddiadau cymunedol yn y dyfodol.

Mae cymaint o bobl eisiau ailddyfeisio’r olwyn drwy’r amser, ond yn fy marn i mae hynny'n wastraff amser ac adnoddau, felly os gallwn ni ddysgu o’r gymuned yr ydym wedi’i datblygu gyda’n gilydd, yna mae hynny'n beth cadarnhaol.

Lauren – Carfan 1 Fy Nghymuned Fwyd

Adroddiadau Diwedd Rhaglen:

Dewch at Eich Gilydd: Penawdau'r Rhaglen – Dod â Chymunedau Ynghyd drwy Goginio, Tyfu a Rhannu

Adroddiad llawn

Final. SAGT_ProgrammeHeadlines_2023_V9.pdf

Rhwydweithiau a Phartneriaethau

Final. Rhwydweithiau a Phartneriaethau SAGT_ProgrammeHeadlines.pdf

Fy Nghymuned Fwyd

Final SAGT_IS_MFC_P1_2023_V4 (1).pdf

Ymgyrchoedd a Grantiau Bach

Final. Campaigns and Small Grants SAGT_ProgrammeHeadlines_2023.pdf

Fideos cryno Dewch at Eich Gilydd:

Gyda rhaglen mor eang ac amrywiol â Dewch at Eich Gilydd, roedd sawl ennyd, atgof, gwers a phrofiad i'w cofnodi a'u harddangos, ac felly roedd hi'n amhosibl gwneud hynny mewn un ffilm. Dyna pam y penderfynon ni wneud pedair! Nod y ffilmiau hyn yw dangos cwmpas, cyrhaeddiad a hirhoedledd y rhaglen unigryw hon a gafodd ei hamseru'n arbennig o dda ac a ddaeth ar yr adeg berffaith i gael yr effaith fwyaf ar y bobl yr oedd wedi'i hanelu i'w cefnogi.

 

Dewch at Eich Gilydd: Dathlu pŵer cymuned

Sut mae crynhoi rhaglen pedair blynedd, amlochrog ar gyfer y DU gyfan sy’n anelu at newid y system fwyd o’r gwaelod i fyny drwy rymuso cymunedau drwy goginio, tyfu a rhannu bwyd da? Y ffordd orau o wneud hyn oedd clywed yn uniongyrchol gan y bobl dan sylw. Wrth deithio’r wlad buom yn sgwrsio â’n partneriaid lleol a chenedlaethol, arweinwyr grymusol Fy Nghymuned Fwyd, a gwelsom â’n llygaid ein

hunain y rhwydwaith helaeth o sefydliadau, unigolion a chymunedau a ddaeth ynghyd drwy'r rhaglen Dewch at Eich Gilydd. Yn y ffilm rydym yn cofnodi eu myfyrdodau ar yr hyn y mae Dewch at Eich Gilydd wedi'i olygu iddyn nhw, a sut y bydd cymryd rhan yn y rhaglen yn eu helpu yn y dyfodol.

 

Fy Nghymuned Fwyd:

Gallwch glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n cymryd rhan yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth Fy Nghymuned Fwyd a'r rhai sydd wedi'u hysbrydoli a'u grymuso gan eu taith a'u cyfranogiad ynddi. Rydym hefyd yn clywed gan gydweithwyr yn y sector am bwysigrwydd rôl cymunedau ac arweinwyr cymunedol o fewn system fwyd sydd wedi torri, a pha mor hanfodol yw hi i gymunedau arwain y newid y mae dirfawr ei angen.

Sut i Adeiladu Rhwydwaith Parhaol a Grymus - Fideo wedi'i Animeiddio

Yn yr animeiddiad addysgiadol hwn, mae tîm rhwydwaith Dewch at Eich Gilydd yn eich tywys drwy sut i adeiladu rhwydwaith effeithiol a all hunanreoleiddio a thyfu'n organig, yn ogystal â sut i osgoi creu rhai sydd â gormod o rwystrau ar gyfer twf ystyrlon a chysylltiadau parhaol.

 

Mae bwyd yn gysylltwr gwych - Pam mae'n bwysig coginio, tyfu a rhannu gyda'ch gilydd?

O deithio ledled y wlad a bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau Plannu a Rhannu yng ngwanwyn 2023, mae’r ffilm hon yn canolbwyntio ar yr hyn y mae coginio, tyfu a rhannu’r profiadau hyn ag eraill yn ei olygu. O Abertawe i Blackburn, o Brimingham i Gaerdydd, gan fynd heibio Caerlŷr, rydym yn cwrdd ag amrywiaeth o gyfranogwyr sy'n dod â phobl at ei gilydd drwy fwyd ac yn darganfod pam mae bwyd yn arf mor bwerus i gysylltu â phobl eraill o bob oed, cefndir a phrofiad.

Yn ôl i’r brig