An older man and early years children gardening together

Linking Generations

Linking Generations

Mae Linking Generations Northern Ireland yn arwain y ffordd o ran cysylltu’r cenedlaethau mewn cymunedau ledled Gogledd Iwerddon gan weithio ochr yn ochr â phobl ifanc i fynd i’r afael â materion lleol.

Mae’n arbenigo yn y gwaith o hyrwyddo arferion sy’n pontio’r cenedlaethau, gan greu cyfleoedd i wahanol genedlaethau ddysgu oddi wrth ei gilydd, cwrdd â’i gilydd, a chefnogi a mwynhau cwmni ei gilydd. Ei weledigaeth yw sicrhau Gogledd Iwerddon sy’n gyfeillgar i bobl o bob oedran, lle mae pob cenhedlaeth yn cael ei pharchu, ei deall, ei chysylltu a’i hymgysylltu o fewn ei chymunedau. Ar hyn o bryd, mae LGNI yn cydlynu rhwydwaith ledled Gogledd Iwerddon sy’n pontio’r cenedlaethau gyda grwpiau o aelodau ym mhob ardal cyngor. I gofrestru, ewch i  www.linkinggenerationsni.com/join

Mae LGNI yn gweithredu fel catalydd ar gyfer dulliau sy’n pontio’r cenedlaethau ac mae’n nodi’r cyfleoedd a’r adnoddau sy’n bodoli o fewn cymunedau, sefydliadau a lleoliadau ac yn eu cefnogi i roi dull sy’n pontio’r cenedlaethau ar waith. Mae’n cefnogi cysylltiadau a meithrin perthnasau ac yn rhoi’r offer i ‘bobl’ a ‘chymunedau’ roi dulliau sy’n pontio’r cenedlaethau ar waith sy’n seiliedig ar anghenion a materion lleol. 

Fel partner yn y prosiect Dewch at eich Gilydd, mae LGNI yn defnyddio ei gysylltiadau gydag aelodau ei rwydwaith i hyrwyddo manteision cysylltu’r cenedlaethau drwy fwyd a bwyta, coginio a thyfu gyda’i gilydd. Mae gweithgareddau LGNI fel rhan o’r Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd yn cynnwys: 

  • Hyrwyddo gweithgareddau Dewch at eich Gilydd i’n haelodau
  • Grantiau bach ar gyfer Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd sy’n pontio’r cenedlaethau
  • Sesiynau gwybodaeth ynghylch y cyfleoedd i gynnal Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd sy’n pontio’r cenedlaethau
  • Prosiectau arddangos

Darganfod mwy

Yn ôl i’r brig