Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yw un o elusennau gwirfoddoli mwyaf Prydain gydag 20,000 o wirfoddolwyr yn darparu’r cymorth sydd ei angen yn ddirfawr mewn ysbytai ac yn y gymuned.
Ei genhadaeth yw ysbrydoli pobl i roi’r rhodd o wasanaeth gwirfoddol i ddiwallu anghenion y dydd. Fel partner yn y broses o drefnu Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, mae’n cefnogi cymunedau lleol i sefydlu grwpiau newydd o dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n dod â phobl ynghyd dros fwyd da.