Pwrpas Fy Nghymuned Fwyd yw ‘hyrwyddo bwyd da’ yn y gymuned – bwyd sydd o les i’r hinsawdd, i fyd natur ac i iechyd.
Beth yw Fy Nghymuned Fwyd?
Mae Fy Nghymuned Fwyd yn canolbwyntio ar ddysgu a datblygiad personol, cysylltu ag eraill a’r mudiad bwyd da ehangach
Fe’i cynlluniwyd i ysbrydoli ac i gefnogi’r aelodau i:
- Meithrin gwybodaeth: dysgu gyda’i gilydd ac yn unigol, ac i gael mynediad at adnoddau
- Cysylltu ag eraill sy’n hyrwyddo bwyd da: yn eich cymuned a ledled y DU
- Gweithredu i greu newid cadarnhaol: mewn perthynas â bwyd da yn eich cymuned
Gallwch gymryd rhan am ddim.

I bwy mae Fy Nghymuned Fwyd yn addas?
Mae Fy Nghymuned Fwyd yn addas i unrhyw un sy’n hyrwyddo bwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned.
Mae Fy Nghymuned Fwyd yn agored i weithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr ffurfiol neu anffurfiol o bob cwr o’r DU sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i eraill yn eu cymuned, ac i weithredu er mwyn sicrhau bwyd da.
Gallai hyn olygu unrhyw beth o:
- drefnu gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd i drafod bwyd da (fel tyfu, coginio a rhannu bwyd)
- ymgyrchu i wella bywydau’r bobl yn eich cymuned a’u profiad o fwyd
Efallai eich bod yn rhan o grŵp dosbarthu bwyd, yn rheoli banc bwyd lleol neu’n trefnu oergell gymunedol.
Ble mae Fy Nghymuned Fwyd yn gweithio?
Cynhelir prosiectau Fy Nghymuned Fwyd ledled y DU. Rydym yn falch o gael aelodau o Belfast i Bury, o Gaerdydd i Gaeredin.
Cynhelir Fy Nghymuned Fwyd ar-lein yn bennaf. Mae hyn yn helpu i ddod â phobl o bob cwr o’r DU at ei gilydd. Ond mae’r grŵp yn cyfarfod wyneb-yn-wyneb hefyd, ac mae pawb yn mwynhau hynny!
Gyda phwy rydym yn gweithio?
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid cenedlaethol a Koreo – ymgynghoriaeth ddysgu sy’n arbenigo mewn dulliau arwain i greu newid cymdeithasol – i ddarparu Fy Nghymuned Fwyd.
Cyflwyno ceisiadau ar ffurf recordiad llais
Rydym yn derbyn ceisiadau wedi’u recordio hefyd ar gyfer cwestiynau 15/16/17/18.
Os hoffech anfon eich cais yn y dull hwn, anfonwch eich ffeiliau sain at myfoodcommunity@soilassociation.org, gan roi’r teitl ‘Cais Fy Nghymuned Fwyd’ i’r neges e-bost.
Rhaid i chi gwblhau pob cwestiwn arall yn y ffurflen gais yn ysgrifenedig. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ffurf recordiad llais ar gyfer cwestiynau 15/16/17/18, nodwch ‘ateb y cwestiwn ar ffurf recordiad llais’ yn y blwch perthnasol.
Ni ddylai eich recordiad(au) fod yn fwy nag 8 munud (mae hyn ar gyfer pob cwestiwn, nid dim ond un cwestiwn).
Ni all y rhan fwyaf o ddarparwyr e-bost anfon ffeiliau sy’n fwy na 25MB, felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ffeil yn fwy na hyn. Os bydd angen i chi anfon mwy nag un recordiad, cofiwch roi bob un ynghlwm i’r un neges e-bost.
Os hoffech dderbyn y ffurflen gais mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni yn myfoodcommunity@soilassociation.org a byddwn yn fwy na pharod i helpu.