Jump to a region:
North of England
-
Age UK Wigan
Bydd Age UK Bwrdeistref Wigan yn recriwtio gwirfoddolwyr lleol o bob oedran er mwyn iddynt ymweld â phobl hŷn ynysig yn eu cymunedau gan naill ai goginio pryd o fwyd gyda hwy neu fynd â phryd o fwyd sydd newydd ei goginio atynt i’w rannu. Byddant hefyd yn cynorthwyo pobl hŷn i dyfu pethau ac yn edrych ar yr opsiynau i ymuno ag ysgolion a sefydliadau ieuenctid. -
Pickering and Ferens Homes
Bydd Pickering and Ferens Homes yn gweithio’n agos gyda’r rhai dros 60 oed sy’n byw mewn llety preswyl er mwyn iddynt allu byw’n annibynnol am gyfnod hir o’u hymddeoliad. Y nod yw creu cymuned sy’n pontio’r cenedlaethau o amgylch ei safleoedd a chael plant o’r ysgolion lleol i fod yn rhan o’r gweithgareddau tyfu.
Northern Ireland
-
An Tobar CIC
Menter gymdeithasol yw An Tobar CIC sydd wedi’i lleoli yn ardal wledig De Armagh gan ddarparu ymyriadau iechyd a lles yn seiliedig ar natur i bobl o bob oedran a gallu. Drwy raglen Tyfu, Coginio a Bwyta a digwyddiadau Dewch at eich Gilydd cymunedol sy’n pontio’r cenedlaethau dros gyfnod o 20 wythnos y nod yw magu hyder a chodi hunan-barch a sgiliau cymdeithasol o fewn y gymuned. -
Grŵp Teulu a Chymunedol Ardmonagh
Mae’r Grŵp Teulu a Chymunedol Ardmonagh sydd wedi’i leoli yn Turf Lodge yn cefnogi anghenion y gymuned leol. Byddant yn darparu nifer o weithgareddau tyfu, coginio a bwyta er mwyn dod â gwahanol genedlaethau at ei gilydd i rannu, dysgu a chael gwared â’r rhwystrau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran gan uno’r gymuned ehangach drwy ddigwyddiadau Dewch at eich Gilydd. -
Cartrefi Nyrsio Spa
Mae Cartrefi Nyrsio Spa yn darparu gofal preswyl a nyrsio i breswylwyr yn Belfast a Ballynahinch. Gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi’u sefydlu y nod yw creu cymuned sy’n pontio’r cenedlaethau mewn pedwar o’i safleoedd, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol, pobl ifanc a theuluoedd i ddatblygu gweithgareddau tyfu bwyd cymunedol, gardd a pherllan, coginio a rhannu bwyd. -
Wee Chicks
Mae Wee Chicks yn hyrwyddo iechyd, lles a ffitrwydd y teulu drwy ddarparu gofal plant. Byddant yn datblygu’r prosiect Wee & Wise i gysylltu pobl hŷn a’r blynyddoedd cynnar drwy gyfres o weithgareddau wythnosol sy’n canolbwyntio ar fwyd da gan gynnwys coginio, celf, crefft a datblygu man tyfu ar y safle.
Scotland
-
Hyb Space & the Broomhouse
Man cymunedol yw’r Hyb Space & the Broomhouse sydd â chaffi, cyfle i ofalwyr ifanc wneud ffrindiau, gwasanaethau ieuenctid a fferm drefol fach. Byddant yn cynnal prydau bwyd bob yn ail fis ble gall y gymuned ddod at ei gilydd i goginio bwyd lleol yn rhad ac yn hawdd gan leihau gwastraff bwyd. -
Rumpus Room
Menter dan arweiniad arlunwyr yw Rumpus Room sy’n ymroddedig i wneud gwaith celf cydweithredol gyda plant a phobl ifanc er mwyn herio’r ffordd rydym yn chwarae, dysgu, gwneud gwaith celf a bod yn weithgar yn ein cymunedau. Bydd arlunwyr Rumpus Room yn gweithio gyda Govanhill Greenspace a Küche (menter goginio gymdeithasol) i gynnal cyfres o weithdai celf a bwyd creadigol sy’n pontio’r cenedlaethau. -
Gerddi Cymunedol Belville
Bydd Gerddi Cymunedol Belville yn cynnal Prydau Bwyd i Godi Calon – sef pryd bwyd cymunedol misol sy’n pontio’r cenedlaethau. Bydd y cyfranogwyr yn defnyddio llysiau a pherlysiau o’r gerddi a drawsnewidiwyd o fod yn dir diffaith i fod yn fan gwerthfawr i’r gymuned gyda man garddio, coginio a dysgu.
Wales
-
Cardiff Salad Garden
Mae Cardiff Salad Garden yn cyfuno’r broses o dyfu dail salad ffres a’i werthu a gweithio gyda grwpiau o unigolion dan anfantais yng Nghaerdydd a’r ardal o amgylch. Y bwriad yw creu gweithdy salad symudol hardd ac ysbrydoledig a fydd yn creu man croesawgar a phwrpasol i uno cymunedau. -
Outside Lives
Mae Outside Lives yn hyrwyddo lles personol a chysylltiadau sy’n pontio’r cenedlaethau drwy gyfrwng diddordebau, doniau a’r amgylchedd. Bydd ei grŵp Dig In yn datblygu gardd gymunedol, a bydd ei grŵp Foodies yn defnyddio bwyd i allu integreiddio mwy â phobl newydd mewn amgylchedd croesawgar. -
Ysgol Gynradd George Street
Nod Ysgol Gynradd George Street yw creu lle diogel, ysgogol a hapus i fod yno. Byddant yn gwahodd, yn cynllunio ac yn rhannu pryd bwyd â phreswylwyr mewn cartrefi gofal lleol ac yn datblygu rhandir er mwyn rhannu profiadau â’r gymuned leol gan ganolbwyntio ar rannu eu profiadau â mam-gu a thad-cu.
Midlands
-
Gartref Gofal Dane View
Mae gan Gartref Gofal Dane View ardd a pherllan hardd sydd wedi’i thirlunio. Mae’n gwahodd disgyblion yr ysgol gynradd leol i dreulio amser gyda’r preswylwyr. Defnyddir y ffrwythau o’r berllan fel bwyd ar gyfer y gweithgareddau hyn, a defnyddir y capel mawr ar y safle i ddod â phobl at ei gilydd i rannu bwyd. -
The Active Wellbeing Society
Nod The Active Wellbeing Society yw dod â phobl at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog ac am ddim a fydd yn eu cynorthwyo i deimlo synnwyr o berthyn ac o gymuned. Byddant yn cynnal gweithdai wythnosol ym mhob cegin gymunedol i ddod â phobl ifanc, oedolion hŷn a theuluoedd ifanc at ei gilydd. -
Bread in Common
Becws bara go iawn sy’n cael ei arwain gan y gymuned yw Bread in Common. Mae’n rhedeg caffi dros dro ac yn dosbarthu prydau bwyd cymunedol gan ddefnyddio bwyd gwastraff a nifer o brosiectau cymunedol, ysgolion a phobl ifanc ac yn cyfuno gweithdai sy’n sôn am fara a choginio gyda’r celfyddydau. -
Sycamore Dining
Mae Sycamore Dining yn dod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu dros bryd o fwyd fforddiadwy. Ei gwsmeriaid yn bennaf yw cymunedau byw’n annibynnol ar gyfer yr henoed. Drwy gynnal digwyddiadau Dewch at eich Gilydd, byddant yn cynyddu amrywiaeth y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth bwyta cymdeithasol drwy gymryd rhan mewn gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol. -
The Hothouse
Prosiect gan Eglwys Lloegr yw The Hothouse sydd o fudd i gymunedau gan ei fod yn cynnig cymorth o un i un. Bydd hefyd yn hyrwyddo gweithgareddau wythnosol sy’n pontio’r cenedlaethau er mwyn i bobl o bob oedran allu dysgu gan ei gilydd. Bydd y gweithgareddau coginio yn codi ymwybyddiaeth o sut y gall bwyd greu synnwyr o gymuned.