Group of adults with children talking in a community garden

Growing Works - Kirklees

Mae Growing Works yn Kirklees yn brosiect garddwriaeth therapiwtig, sy'n defnyddio eu Grant Bach mewn argyfwng i ddarparu pecynnau gweithgaredd a thyfu, ynghyd ag adnoddau garddio ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ag anghenion ac anableddau addysg arbennig, pobl ynysig, oedolion â chyflyrau iechyd meddwl (y rhai sydd wedi cael diagnosis a’r rhai sydd heb gael diagnosis), ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Group of adults with children talking in a community garden

Growing Works - Kirklees

“Mae gofalu am y gerddi yn rhoi teimlad o obaith i mi ar gyfer y dyfodol.”

Mewn ymateb i Covid-19, dyfarnodd Rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes nifer o Grantiau Bach mewn argyfwng i sefydliadau lleol ledled y DU a oedd yn darparu cymorth gwirfoddoli gyda bwyd a thyfu planhigion.

Y nod yw gwneud pobl yn hapusach ac yn iachach drwy fwyd da, cymunedau a chysylltu pobl o bob oedran a chefndir. Mae'r genhadaeth hon hyd yn oed yn bwysicach yn ystod y pandemig presennol, lle mae tlodi bwyd, unigedd a phroblemau iechyd meddwl yn cynyddu.

Mae Growing Works yn Kirklees yn brosiect garddwriaeth therapiwtig, sy'n defnyddio eu Grant Bach mewn argyfwng i ddarparu pecynnau gweithgaredd a thyfu, ynghyd ag adnoddau garddio ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ag anghenion ac anableddau addysg arbennig, pobl ynysig, oedolion â chyflyrau iechyd meddwl (y rhai sydd wedi cael diagnosis a’r rhai sydd heb gael diagnosis), ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Nod y prosiect yw cynorthwyo iechyd a lles meddwl, a chefnogi gweithgareddau tyfu i helpu i symud tuag at ffordd fwy cynaliadwy o fwyta yn y gymuned. Mae'r sefydliad wedi bod yn cynnal ardaloedd tyfu awyr agored hygyrch yn ystod y pandemig i alluogi cymunedau lleol i ymgysylltu â natur a chynhyrchu cynhaeaf i'w ddefnyddio gan bawb yn lleol, gan ddod â phobl ynghyd drwy fwyd mewn ffordd sy'n ddiogel yn gymdeithasol, er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd.

“Roeddwn yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan Growing Works, yn enwedig pan nad oedd gweithgareddau eraill ar gael i mi, a phan oedd fy nhrefn ddyddiol arferol wedi ei throi wyneb i waered”, meddai un cyfranogwr. “Roedd yn gyfnod o straen a phryder mawr, lle bu’n rhaid i mi ymdopi ar fy mhen fy hun gyda phlentyn ag anghenion iechyd meddwl. Roedd gallu sgwrsio am y pethau hyn bob wythnos mewn lle tawel a chroesawgar, lle roeddwn i'n gallu gweld yr un bobl ac y gallen nhw gynnig clust i wrando, yn help mawr i mi. Mae helpu i feithrin gofod a rennir yn teimlo fel fy mod yn cyfrannu at rywbeth y gall pobl - gan gynnwys fi fy hun - ddychwelyd ato. Mae gofalu am y gerddi yn rhoi teimlad o obaith i mi ar gyfer y dyfodol, y byddan nhw yno'n edrych yn hyfryd ac yn barod ar gyfer yr adeg pan fydd pobl yn cwrdd eto.”

 

Yn ôl i’r brig