Mis Coginio a Rhannu yn ennyn annibyniaeth ymhlith pobl ifanc

“Mae sesiynau Coginio a Rhannu yn annog pobl ifanc i fod yn annibynnol, i reoli arian a datblygu cymuned”

Mis Coginio a Rhannu yn ennyn annibyniaeth ymhlith pobl ifanc

Yn ystod mis Coginio a Rhannu, daeth pobl ledled y DU ynghyd ar gyfer digwyddiadau cymunedol llawn hwyl, yn seiliedig ar fwynhau bwyd da. 

Mae’r National House Project yn cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal i fyw bywydau llawn sy’n rhoi boddhad iddynt. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol a meithrin cysylltiadau yn y gymuned. Roedd pobl ifanc grŵp Midlothian House Project wrth eu bodd gyda Mis Coginio a Rhannu, yn cael hwyl wrth goginio meithrin sgiliau gwerthfawr. 

O bizza cartref i deisen siocled, buont yn profi ac yn blasu llu o ryseitiau blasus a maethlon, gan rannu syniadau ac arddangos eu sgiliau coginio â’r gymuned. 

Chicken dinner

Meddai Becky Reynolds, Arweinydd Ymarfer y National House Project: “Mae Coginio a Rhannu yn ategu’r rhaglen House Project yn arbennig o dda, gan ysbrydoli pobl ifanc i goginio prydau iach a fforddiadwy a meithrin hyder, annibyniaeth a pherchenogaeth.”

Gall dod â chymunedau ynghyd i fwynhau pryd o fwyd wedi’i goginio gan ddefnyddio cynhwysion craidd helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, creu cyfeillgarwch a chwalu rhwystrau, rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni yn Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes.

Aeth Becky ymlaen i ddweud: “Mae Coginio a Rhannu hefyd yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau bwyta’n iach, siopa, cyllidebu, a diogelwch bwyd. Mae pobl ifanc yn cael tystysgrifau AQA am gwblhau pob modiwl yn y rhaglen, sy’n helpu i sicrhau gwaith neu hyfforddiant pellach ac mae hyd yn oed wedi arwain at rai o’r bobl ifanc yn mynd ar drywydd gyrfa yn y diwydiant bwyd.”

“Mae coginio gydag eraill hefyd yn helpu’r grŵp i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o anghenion a dewisiadau gwahanol pobl eraill, megis deiet llysieuol neu Halal, yn ogystal â phawb yn golchi llestri yn eu tro!”

 

Tacos

Mae helpu pobl i goginio gyda chynhwysion craidd yn rhan bwysig o Fis Coginio a Rhannu, sy’n cynnig manteision iechyd ac yn aml mae’r ôl-troed carbon yn llai na bwydydd eraill sydd wedi’u prosesu’n sylweddol. 

Gyda Covid yn parhau i effeithio ar ein gallu i gwrdd ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb, mae gennym un neu ddau o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cadw mewn cysylltiad. O gydgoginio ar-lein  i rannu eich digwyddiad drwy fideo! 

Digwyddiadau Diogel o ran Covid 

Mae’r canllawiau diweddaraf ar gynnal digwyddiad diogel o ran Covid, ar gael yma .

Yn ôl i’r brig