Plannu perlysiau yn dwyn ffrwyth

Plannu perlysiau yn dwyn ffrwyth

Yn 2020, rhoddodd Covid stop ar lawer o weithgareddau’r Cedar Foundation, sydd wedi’i lleoli yn Iwerddon.

Ond ni wnaeth hyn ei hatal rhag dod â phobl ynghyd ar gyfer Mis Plannu a Rhannu, a hynny heb i unrhyw un o’r cyfranogwyr adael eu cartref.

Dyfarnwyd un o Grantiau Bach Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes i Inclusion Matters, gwasanaeth sy’n rhan o’r Cedar Foundation.

Mae Inclusion Matters yn cefnogi oedolion ag anableddau corfforol a synhwyraidd sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol i archwilio cyfleoedd cymdeithasol yn eu hardal leol.

Ardal wledig yn bennaf yw Fermanagh ac Omagh a wasanaethir gan y rhaglen, sy’n golygu bod cyfranogwyr yn wynebu anawsterau pellach o ran trafnidiaeth.

Gan ddefnyddio eu Grant Bach, cynhaliodd Inclusion Matters weithgaredd yn y cartref gan ddefnyddio perlysiau. Yn ystod y cyfnod clo, dosbarthwyd pecynnau cychwynnol tyfu perlysiau i’r cyfranogwyr.

Yna cynhaliwyd sesiynau Zoom yn ymdrin â phopeth yn ymwneud â pherlysiau: sut i’w defnyddio wrth goginio, o ble maen nhw’n dod a sut i ofalu amdanyn nhw er mwyn iddyn nhw ffynnu!

Roedd y gweithgaredd yn llwyddiant mawr. Meddai un o’r cyfranogwyr, "Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i dyfu perlysiau gartref dan arweiniad, ond roedd gweld eich hadau’n tyfu’n berlysiau go-iawn yn brofiad arbennig. Hefyd, fe wnes i ddefnyddio’r perlysiau mewn prydau bwyd; ychwanegu basil at gawl tomato, ychwanegu berwr at salad tatws a rhewi’r gweddill i’w defnyddio yn y dyfodol. Syniad gwych."

Mae’r Cedar Foundation yn gweithio ledled Gogledd Iwerddon i alluogi pobl ag anableddau i wneud y gorau o fywyd. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys yn llawn yn eu cymunedau.

Wedi’ch ysbrydoli? Mae rhagor o wybodaeth am Grantiau Bach ar gael yma.

Yn ôl i’r brig