Worth Unlimited yn bwydo’r gymuned

Darganfyddwch sut y darparodd Worth Unlimited wasanaeth tecawê i ddod â'r gymuned ynghyd

Worth Unlimited yn bwydo’r gymuned

Mae Worth Unlimited yn Huddersfield fel arfer yn cynnal Clybiau Cinio yn ystod Gwyliau’r Ysgol, sydd wedi’u hanelu at deuluoedd plant sydd fel arfer yn derbyn prydau ysgol am ddim yn ystod y tymor, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

O dan amgylchiadau ‘arferol’, byddai’r gymuned yn dod at ei gilydd i fwynhau pryd mawr o fwyd yn neuadd yr eglwys leol. Ond, wrth i achosion Covid gynyddu yn yr ardal, bu’n rhaid meddwl yn greadigol er mwyn parhau â’r cymorth cymunedol a’r cysylltiad â phobl dros fwyd – a dyna pryd y cafwyd y syniad i gynnig gwasanaeth tecawê.

Wendy yw gweithiwr ieuenctid a chymunedol a swyddog cyffredinol Lowerhouses, Huddersfield. Gweithiodd gyda phlant ac aelodau iau o’r gymuned i greu 50 o brydau bwyd a phwdinau bob dydd a hynny am dri diwrnod yn ystod y gwyliau hanner tymor. Roedd un o’r prydau hyn yn bryd y mae Wendy yn arenigwraig arno – cinio dydd Sul gyda chyw iâr, llysiau a thatws rhost. Roedd y peli cig mewn grefi gyda thatws stwnsh a llysiau yn boblogaidd iawn hefyd. Ac fel trît arbennig – bu’r tîm wrthi’n brysur yn pobi pwdin siocled a sbwng jam gyda blawd cnau coco.

Rhoddwyd y prydau tecawê mewn bocsys a daeth yr oedolion i gasglu’r prydau bwyd ar gyfer eu teuluoedd.

Meddai Wendy - “Roedd pawb wir yn gwerthfawrogi’r clwb cinio yn ystod y gwyliau hanner tymor. Daeth tri theulu newydd atom a dweud pa mor falch oedden nhw o beidio â gorfod poeni am sut i fwydo’r teulu cyfan yn ystod yr wythnos. Roedd y prydau bwyd yn gyfle gwych i bobl gael gweld eu cymdogion (gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs!) y tu allan i’r adeilad tra roedden nhw'n aros i gasglu’r prydau tecawê.”

Darllenwch fwy o’n straeon ysbrydoledig yma.

Yn ôl i’r brig