a group of children learning cooking skills

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yma i’ch helpu i gael y gorau o’ch digwyddiad Dewch at eich Gilydd.  Cysylltu â ni.

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes?

    Gweithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd â’i gilydd drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da yw’r fenter Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes.

  • Sut y gallaf gymryd rhan?

    Cofrestrwch a byddwn yn anfon pecyn digwyddiad am ddim atoch sy’n cynnwys pob dim sydd ei angen arnoch i drefnu digwyddiad – posteri, syniadau am ryseitiau, gemau ar gyfer pobl o bob oed a llawer mwy!

  • A yw’n bosibl i mi drefnu neu fynychu Digwyddiad Dewch at Eich Gilydd yn ystod Covid-19?

    Er ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, nid yw hyn yn golygu y dylem ynysu ein hunain yn gymdeithasol.
    Nawr yn fwy nag erioed, credwn ei bod yn bwysig meithrin cysylltiadau cryf o fewn cymunedau. Mae tyfu, coginio a rhannu bwyd gyda’n gilydd yn ffordd wych o wneud hyn.
    Mae nifer fawr o bethau y gallwch eu gwneud tra bod Covid-19 yn effeithio ar ein bywydau. Dyma rai syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar gyfer eich ardal leol.

  • Pryd mae’r digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd yn cael eu cynnal?

    Gallwch gynnal digwyddiad Dewch at Eich Gilydd unrhyw adeg o’r flwyddyn, ar yr amod bod hynny o fewn canllawiau presennol y Llywodraeth ar gyfer eich ardal leol. Cymerwch gipolwg ar ein calendr digwyddiadau i ddod i gael rhai syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

  • Yn ôl y canllawiau diweddaraf, nid yw’r rheol o 6 yn berthnasol i weithgareddau elusennol nac addysgiadol. Alla i barhau i gynnal gweithgareddau yn yr awyr agored ar gyfer fy nigwyddiad Dewch at Eich Gilydd?

    Mae canllawiau cenedlaethol diweddar (diweddarwyd ar 22/9/20) wedi’u cyflwyno yn Lloegr - dylai pobl yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ddilyn y rheolau penodol ar gyfer y rhannau hynny o’r DU i gyfyngu ar ledaeniad Covid-19, sy’n cyfyngu ar nifer y bobl all ymgynnull yn gymdeithasol  i 6. Roeddem eisiau cadarnhau ein dealltwriaeth o beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy’n trefnu digwyddiad Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn eu cymuned. Rydym yn cydnabod fod nifer o bobl sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd yn cefnogi pobl mewn angen fel math o grŵp cymorth neu grŵp cymorth ar y cyd. Gall gweithgareddau Dewch at Eich Gilydd gwrdd mewn grwpiau o fwy na 6 ar yr amod bod un o’r eithriadau canlynol yn berthnasol: 

     

    • maent yn cwrdd ar gyfer gwaith, neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol
    • gofal plant cofrestredig, addysg neu hyfforddiant (gweler y canllawiau ychwanegol ar gyfer lleoliadau addysg yma)
    • gweithgareddau dan oruchwyliaeth a ddarperir i blant, yn cynnwys gofal cofleidiol, grwpiau a gweithgareddau ieuenctid, a grwpiau chwarae i blant
    • grwpiau cymorth o hyd at 15 o gyfranogwyr - grwpiau wedi eu trefnu’n ffurfiol i ddarparu cymorth ar y cyd, therapi neu unrhyw fath arall o gymorth.

    Gall digwyddiad Dewch at Eich Gilydd o fwy na 6 o bobl nad yw’n bodloni unrhyw un o’r eithriadau hyn barhau i fynd yn ei flaen, fel math o grŵp cymorth, pe bai sawl grŵp o chwech yn mynychu, ar yr amod fod y rhyngweithio cymdeithasol a'r gweithgaredd a rennir yn gyfyngedig i grwpiau o chwech.

    Ym mhob achos dylai pobl neu sefydliadau sy’n trefnu digwyddiad Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes sy’n golygu cysylltiad cymdeithasol personol â grwpiau:

     

    • gadw pellter cymdeithasol (yn cynnwys defnyddio gorchudd wyneb, pan fo angen er mwyn gwneud cyswllt yn ddiogel)
    • cwblhau eu hasesiad risg eu hunain i helpu i sicrhau bod yr holl risgiau cysylltiedig yn cael eu hystyried, gan gynnwys haint Covid-19
    • ystyried sut y bydd grŵp o fwy na 6 yn edrych i eraill a rhoi gwybod i bobl os a pham mae eich gweithgaredd yn eithriad i’r rheol o 6
    • edrych ar y dudalen cyfyngiadau lleol i weld a oes unrhyw gyfyngiadau lleol yn eich ardal chi
  • A oes unrhyw gyllid ar gael?

    Rydym yn derbyn ceisiadau am grantiau bach mewn rhai ardaloedd drwy gydol y flwyddyn. Darllenwch fwy yma. 

  • Pam mae digwyddiadau Dewch at eich Gilydd yn bwysig a sut y gallaf fesur fy effaith?

    Rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn dod yn fwyfwy datgysylltiedig oddi wrth ffynonellau eu bwyd. Rydym hefyd yn gwybod nad oes llawer o gyfleoedd i bobl hŷn a phobl ifanc ddod ynghyd. Ac rydym hefyd yn gwybod bod nifer o bobl - o bob oed - yn teimlo wedi’u hynysu o fewn eu cymunedau ac nad ydynt yn adnabod eu cymdogion.
    Mae digwyddiad Dewch at eich Gilydd yn gyfle i ddangos i bobl o bob cenhedlaeth a chefndir y gallwn i gyd dyfu, coginio a rhannu bwyd â’n gilydd.

    Byddwn yn anfon poster gwerthuso atoch fel rhan o’n pecyn digwyddiad fel y gallwch weld y gwahaniaeth y mae eich digwyddiad Dewch at Eich Gilydd wedi ei wneud. Darllenwch am brofiadau pobl sydd eisoes wedi cynnal digwyddiad Dewch at eich Gilydd. 

  • Sut y gallaf ddarparu bwyd ar gyfer pobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd?

    Rydym wedi llunio canllaw syml ar ddiogelwch bwyd, sy’n cynnwys gwybodaeth am hylendid bwyd, cadw bwyd yn ddiogel, a gwybodaeth am alergeddau. Darllenwch fwy yma. 

  • Beth sydd angen i mi ei ystyried o ran diogelu?

    Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid, Linking Generations Northern Ireland, i ddod â’r holl wybodaeth am ddiogelu sydd ei hangen arnoch ynghyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

  • Sut y gallaf rannu’r hyn rydym yn ei wneud?

    Hoffem glywed gennych am eich gweithgareddau, a byddai ein cymuned Dewch at eich Gilydd yn hoffi clywed amdanynt hefyd. Rhannwch eich lluniau, eich fideos a’ch storïau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #FFLGetTogethers, gwiriwch yr hashnod i gael ysbrydoliaeth, ac ymunwch â’n Grŵp Dewch at eich Gilydd Cymunedol ar Facebook i rannu storïau ac i gael syniadau.

  • Beth yw’r cysylltiad rhwng Dewch at eich Gilydd a Chymdeithas y Pridd?

    Mae Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn rhan o symudiad mwy, sy’n cael ei arwain gan Gymdeithas y Pridd, i wneud bwyd da yn ddewis hawdd i bawb. Mae’r rhaglen Dewch at eich Gilydd yn cael ei chyflwyno gan Bwyd am Oes diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

  • Sut y gallaf gynnwys cymunedau amrywiol yn fy nigwyddiad Dewch at eich Gilydd?

    Dod â phobl ynghyd o genedlaethau neu gefndiroedd gwahanol gan ddefnyddio bwyd da sydd wrth wraidd y fenter Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes. Rydym yn credu bod cydweithio nid yn unig yn cryfhau cymunedau ond hefyd yn creu lle i alluogi pawb i chwarae rhan weithredol yn eu system fwyd leol.
    Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwaith a bod mor gynhwysol â phosibl. Darllenwch fwy am ein gwaith ar sicrhau mwy o amrywiaeth a chynhwysiant yn yr hyn a wnawn.

  • A oes angen i’r bwyd yn fy nigwyddiad Dewch at eich Gilydd fod yn organig?

    Nac oes. Credwn fod bwyd da yn fwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned, a gallwch fynd ati mewn gwahanol ffyrdd - tyfu eich bwyd eich hunan, coginio cynnyrch ffres, lleol, neu ddefnyddio bwyd a fyddai wedi cael ei wastraffu fel arall. Mae bwyd organig yn ffordd wych arall o sicrhau eich bod yn bwyta bwyd da ond nid yw’n ofyniad ar gyfer digwyddiad Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes.

  • Sut y gallaf gysylltu â sefydliadau a phobl eraill sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau Dewch at eich Gilydd?

    Gall ein teclyn Cysylltwr Cymunedol eich helpu i ganfod a chysylltu â’n partneriaid lleol a chenedlaethol ac arweinyddion cymunedol eraill yn eich ardal. Gwnewch gysylltiadau yma.


    Gallwch hefyd ymuno â chymuned ddigidol Dewch at eich Gilydd a rhannu ryseitiau, syniadau, awgrymiadau, cyngor a mwy gyda phobl o’r un meddylfryd â chi ledled y wlad. Ymunwch heddiw a chael eich ysbrydoli gan yr hyn y mae eraill yn ei wneud.

  • Beth yw’r cysylltiad rhwng Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes a digwyddiadau Y Cinio Mawr Eden Project Communities?

    Mae Eden Project Communities yn un o bartneriaid cenedlaethol y rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes. Mae Eden Project Communities yn cynnal digwyddiad blynyddol bob mis Mehefin o’r enw Y Cinio Mawr sy’n ymwneud â dod â phobl ynghyd a gwneud cysylltiadau, yn aml gyda bwyd, felly mae’n bartner naturiol i’r rhaglen Dewch at eich Gilydd.
    Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad Dewch at eich Gilydd y Cinio Mawr. 

  • Beth os nad oes gennyf le i dyfu unrhyw beth?

    Mae’n bosibl defnyddio mannau bach yn llwyddiannus hyd yn oed. Mae mannau mwy ar gael yn aml mewn gerddi cymunedol lleol, rhandiroedd neu mewn lleoliadau cymunedol fel ysgolion, canolfannau cymunedol neu adeiladau crefyddol. Mae Dewch at eich Gilydd yn ymwneud yn gyfan gwbl ag adeiladu pontydd i sefydliadau cymunedol, felly os ydych yn ysgol neu’n grŵp cymunedol gyda gofod bychan, beth am gysylltu â gardd neu leoliad cymunedol sydd â lle yn lleol i drafod tyfu yn eu man gwyrdd nhw?

  • Beth os bydd pethau’n mynd o chwith yn fy ngardd?

    Mae hyn yn digwydd, wrth gwrs. Gyda hadau a chwyn, trychfilod, gwynt, sychder a glaw, bydd rhywbeth wastad yn mynd o’i le. Y peth pwysicaf yw’r gofal a roddwch i’r ardd, a’r hyn rydych yn ei ddysgu o’r profiad. Gall hyn fod yn bwynt trafod delfrydol, ac yn amser gwych i ofyn am air o gyngor gan arbenigwr garddio yn y gymuned.

  • Pwy fydd yn gofalu am y planhigion pan na fydda i ar gael?

    Mae planhigion yn parhau i dyfu a bydd angen eu dyfrio, eu chwynnu a’u casglu. Pa un a ydych yn garddio mewn ysgol neu mewn safle cymunedol, mae llunio rota o oedolion sy’n fodlon gofalu am eich planhigion bob yn hyn a hyn yn syniad da. Mae’n bosibl y bydd angen i chi ad-dalu’r gymwynas – neu roi cynnyrch iddyn nhw!

  1. Hands tending to seedlings

    1. Dechrau arni

    Yn ansicr ble i ddechrau o ran trefnu eich gweithgaredd coginio, tyfu neu giniawa cymdeithasol cymunedol? Dyma wybodaeth am sut i ddechrau arni.

    Darllen mwy Translation.Word.About 1. Dechrau arni
  2. 2. Cofrestru

    Ydych chi’n barod i’ch cymuned fod yn rhan o weithgaredd Dewch at eich Gilydd? Cofrestrwch nawr i dderbyn pecyn adnoddau am ddim.

    Darllen mwy Translation.Word.About 2. Cofrestru
  3. Woman and child baking together

    3. Cymorth gyda mynediad

    Cysylltwch ag un o’n timau lleol i ddarganfod sut y gallwn eich helpu i ddechrau arni, gan gynnwys pa gyllid sydd ar gael yn eich ardal chi.

    Darllen mwy Translation.Word.About 3. Cymorth gyda mynediad
  4. A group of men and women holding plants in pots and smiling from a social distance

    4. Ymuno â’r gymuned

    Rhannwch argymhellion coginio a thyfu, syniadau a chyngor cymunedol, a llawer mwy gyda phobl o’r un meddylfryd â chi ledled y wlad. Ymunwch heddiw i ddod yn rhan o’n cymuned weithgar sy’n tyfu.

    Darllen mwy Translation.Word.About 4. Ymuno â’r gymuned
Yn ôl i’r brig