Sut y gallaf gynnwys cymunedau amrywiol yn fy nigwyddiad Dewch at Eich Gilydd?
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwaith ac i fod mor gynhwysol â phosibl, a hoffem eich cefnogi i wneud yr un peth.Â
Mae’n bwysig dod i adnabod eich cymuned a gofyn i’r aelodau beth fyddai’n eu helpu nhw i gymryd rhan mewn digwyddiad Dewch at Eich Gilydd.
Pwy sydd yn eich Cymuned chi?
Mae sawl ffordd o wneud hyn, er enghraifft drwy gynnal arolygon neu drwy ofyn am adborth drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond y ffordd hawsaf yn aml yw sgwrsio â phobl yn anffurfiol am eich syniad Dewch at Eich Gilydd i weld a yw’n gweithio iddyn nhw a’r bobl maen nhw’n eu hadnabod. Mae’n bosibl hefyd y byddwch am gysylltu â grwpiau neu sefydliadau eraill sydd wedi cynnal digwyddiad Dewch at Eich Gilydd neu sydd wedi gweithio gyda’ch cymuned chi o’r blaen i siarad am beth sydd wedi gweithio’n dda iddyn nhw.
Pan fyddwch yn adnabod eich cymuned, bydd yn haws i chi gynllunio beth i’w wneud i helpu pobl i gymryd rhan.
Ystyriwch hygyrchedd
- gyfieithu posteri i annog pobl o gefndir Pwylaidd i gymryd rhan
- hygyrchedd eich lleoliad i gefnogi pobl ag anableddau corfforol
- gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu fforddio cymryd rhan os ydych yn gofyn i bobl gyfrannu mewn rhyw ffordd
- gwneud eich gweithgaredd mor garedig a chynhwysol â phosibl i bobl â dementia. Mae’r rhestr wirio dementia hon yn adnodd gwych (https://www.alzheimers.org.uk/get-involved/dementia-friendly-communities/organisations/dementia-friendly-environment-checklist)
Cenedlaethau amrywiol
Ydych chi’n bwriadu dod â chenedlaethau gwahanol ynghyd? Darllenwch ein Canllaw ar Ymarfer sy’n Pontio’r Cenedlaethau. Mae tudalennau 6 a 7 yn ymwneud â’r 8 egwyddor o Ymarfer sy’n Pontio’r Cenedlaethau a manteision dod â chenedlaethau ynghyd, a allai eich helpu i gefnogi grwpiau amrywiol i gysylltu â’i gilydd. Â
“Creodd y sŵn chwerthin a’r ymgysylltiad rhwng y cenedlaethau awyrgylch gwahanol yn y cartref ac mae wedi dod yn atgof parhaol i bawb a gymrodd ran.”
Jocelyn, Rheolwr Cartref Gofal, Cartref Nyrsio Spa
Defnyddio Hawdd Darllen
Wrth feddwl sut y byddwch yn cyfathrebu eich digwyddiad Dewch at Eich Gilydd neu wrth baratoi unrhyw adnoddau ysgrifenedig, mae’n bwysig meddwl am eu gwneud mor hygyrch â phosibl. Un ffordd a allai eich helpu i gefnogi nifer o grwpiau gwahanol yw defnyddio fformat “Hawdd ei Ddeall”. Gall hefyd eich helpu i wneud dogfennau’n fwy hygyrch i bobl y mae Saesneg yn ail iaith iddynt, plant ifanc, y rhai â dementia a phobl ag anableddau dysgu. Gallwch ddysgu mwy am ddeunyddiau Hawdd eu Deall yma https://www.gov.uk/government/publications/inclusive-communication/accessible-communication-formats