Ynglŷn â Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes
Mae Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn rhan o symudiad mwy, o dan arweiniad Cymdeithas y Pridd, i wneud bwyd da yn ddewis hawdd i bawb. Mae’r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno gan Bwyd am Oes, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Beth yw digwyddiad Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes?
Mae digwyddiad Dewch at eich Gilydd yn cysylltu pobl o wahanol gefndiroedd neu genedlaethau drwy weithgareddau’n ymwneud â bwyd da.
Mae bwyd yn lefelwr da ac mae’n dod â phobl ynghyd, beth bynang eu hoedran, eu hetifeddiaeth neu eu cefndir.
Beth yw bwyd da?
Mae bwyd da yn fwyd sy’n gwneud lles i, i’r blaned ac i’r economi leol. Mae bwyd da hyd yn oed yn well pan gaiff ei rannu a chredwn y dylai bwyd da fod ar gael i bawb!
“Mae’r ffaith bod dechreuwyr pur yn rhoi cynnig ar dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain yn ffordd wych o ymchwilio i ffynonellau bwyd ffres a chynaliadwy. Mae wedi bod yn wych gweld plant ac oedolion fel ei gilydd yn mwynhau rhoi cynnig ar hobi newydd gan arddangos holl ethos Dewch at eich Gilydd.”
Sue Evans, Rheolwr Elusennol, Manor Farm
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae digwyddiadau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn dod â phobl o wahanol genedlaethau a chefndiroedd ynghyd gan ddefnyddio bwyd da. Darllenwch ein datganiad ar amrywiaeth a chynhwysiant yma.