Three women wearing headscarves holding plants in pots and smiling

Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes

Gweithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oedran a chefndir drwy fwyd yw’r fenter Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes.

Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes

Wedi’i lansio yn 2019, roedd Dewch at Eich Gilydd yn rhaglen pedair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a arweiniwyd gan dîm Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd. Roedd ganddi bum partner cenedlaethol a 12 partner lleol ledled y DU. Y nod oedd dod â phobl o bob cenhedlaeth a chefndir at ei gilydd drwy dyfu, coginio, a rhannu bwyd da. Pan newidiodd y pandemig ein bywydau, roedd yn rhaid i'r rhaglen addasu i ffordd newydd o weithio. Arweiniodd hyn at gyfoeth o sesiynau ar-lein, rhwydweithio a chysylltu pobl ledled y DU drwy eu cariad tuag at dyfu a choginio bwyd.

Rydym yn dal i wynebu llawer o heriau bob dydd ac mae arweinwyr cymunedol yn aml ar flaen y gad o ran cefnogi’r rhai sydd angen cymorth fwyaf, ac roedd y rhaglen Dewch at eich Gilydd yno i’w cefnogi.

O feithrin hyrwyddwyr bwyd da cymunedol ar lawr gwlad drwy ein rhaglen arweinyddiaeth Fy Nghymuned Fwyd, i rannu sgiliau gyda’r sefydliadau Partner Lleol, ein cenhadaeth ar y cyd a’n cydweithrediad agos â’r Partneriaid Cenedlaethol, mae’r gwersi a’r wybodaeth a gafwyd drwy gydol y rhaglen wedi bod yn amhrisiadwy.

Older woman looks on as an early years child pours batter into a baking tray
Saville Park Care Home a Cherry Tree Day Nursery, 2019

Fy Nghymuned Fwyd

Rhaglen arweinyddiaeth garlam i drefnwyr cymunedol yw Fy Nghymuned Fwyd a lansiwyd gan y rhaglen Dewch at Eich Gilydd ym mis Medi 2021. Hyd yma, bu dwy garfan o'r rhaglen Fy Nghymuned Fwyd, sef 2021 a 2022, lle y cafodd 114 o Arweinwyr Bwyd Da y dyfodol eu recriwtio a’u hyfforddi o bob rhan o’r DU. Mae’r rhaglen wedi darparu 138 awr o hyfforddiant i gyd ac wedi dyfarnu mwy na £50,000 mewn Grantiau Gweithredu Arweinyddiaeth ar gyfer atebion arloesol i faterion bwyd lleol.

Disgwylir i Fy Nghymuned Fwyd gynnal trydedd carfan yn hydref 2023, wrth i’r rhaglen arweinyddiaeth ddatblygu y tu hwnt i Dewch at Eich Gilydd i ddod yn rhan o uchelgeisiau Cymdeithas y Pridd i ddatblygu Llysgenhadon Bwyd Da Drwy rymuso a chefnogaeth.

Woman wearing a mask handing out plants to community members

Rhwydweithiau

Drwy gydol y rhaglen Dewch at Eich Gilydd daeth rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o filoedd o unigolion, cymunedau, grwpiau'r trydydd sector, mentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol a gweithwyr eraill y llywodraeth ynghyd i lunio gweledigaeth eang o dyfu, coginio a rhannu bwyd da.

Gan adeiladu ar hyn, lansiodd y rhaglen Dewch at Eich Gilydd gyfres genedlaethol o Ddigwyddiadau Rhwydwaith. Eu nod oedd archwilio'r defnydd o bŵer rhwydweithiau i hyrwyddo dinasyddiaeth fwyd dda ar lefel gymunedol, yn ogystal â hwyluso mwy o gysylltiadau rhwng cymheiriaid yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau Rhwydwaith sydd i ddod ar gael yma

A woman handing out plants to community members

Ymgyrchoedd – Plannu a Rhannu / Coginio a Rhannu

Gyda nod gyffredinol o uno pobl o wahanol gefndiroedd, oedrannau a demograffeg drwy ddod at ei gilydd i goginio a thyfu bwyd da, roedd yr ymgyrchoedd Plannu a Rhannu a Coginio a Rhannu ill dwy yn arfau perffaith ar gyfer ysgogi a chysylltu torfol mewn perthynas â gweithgareddau sy'n seiliedig ar fwyd.

Bydd yr ymgyrchoedd Coginio a Rhannu a Plannu a Rhannu yn parhau y tu hwnt i'r rhaglen Dewch at Eich Gilydd.

A woman handing out plants to community members

Gwerthusiad ac Effeithiau'r Rhaglen

Er y bydd llawer o’r gweithgareddau drwy’r rhaglen Dewch at Eich Gilydd yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o bedair blynedd, megis rhaglen arweinwyr Fy Nghymuned Fwyd, digwyddiadau rhwydwaith, a’r Ymgyrchoedd Plannu a Rhannu a Coginio a Rhannu, cafodd pedair blynedd y rhaglen eu gwerthuso'n fanwl a gwnaed gwaith ymchwil arni gan bartneriaid academaidd, sef Prifysgol Gorllewin Lloegr a Phrifysgol Cofentri. Mae’r holl adroddiadau cyhoeddedig i’w gweld yma sy’n cynnwys Adroddiad cryno diwedd y rhaglen a chanfyddiadau academaidd mwy manwl ynghylch Fy Nghymuned Fwyd, rhwydweithiau a phartneriaethau a’r ymgyrchoedd.

A woman handing out plants to community members

Cadw Cysylltiad

Fel gyda phob cymuned a rhwydwaith da, nid yw'r sgwrs byth yn dod i ben! I gael y newyddion diweddaraf am yr ymgyrchoedd, Fy Nghymuned Fwyd a digwyddiadau rhwydwaith, gallwch ymuno yn y sgwrs ar y sianeli hyn:

Circle

Facebook

LinkedIn

cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

Yn ôl i’r brig