Rhwydweithiau Cymunedol y Mudiad Bwyd Da
Mae'r rhaglen Dewch at Eich Gilydd yn cynnal cyfres genedlaethol o Ddigwyddiadau Rhwydwaith i ymchwilio i ddefnyddio pŵer cymunedau i ehangu gweithgareddau bwyd da, yn ogystal â hwyluso mwy o gysylltiadau rhwng cymheiriaid yn lleol ac yn genedlaethol.
Gan weithio ochr yn ochr â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad partneriaid y rhaglen, arweiniodd dull unigryw Dewch at Eich Gilydd o gynnal Digwyddiadau Rhwydwaith at amrywiaeth eang o bobl yn dod at ei gilydd. Roedd y rhwydweithiau hyn yn cynnwys unrhyw un a oedd eisiau gwybod mwy am y mudiad bwyd da, o dyfu bwyd, i'w goginio, i adeiladu cymuned o'i gwmpas. Roedd y digwyddiadau rhwydweithiau hefyd yn creu gofod i bobl rannu a dysgu gan eraill o ystod eang o gefndiroedd, lleoliadau, profiad a gwybodaeth.

Y Dull o Adeiladu Rhwydwait
Roedd gan y digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd ffocws strategol ar gryfhau rhwydweithiau ar lefelau lleol a chenedlaethol drwy: gynnal digwyddiadau rhwydwaith, rhannu cylchlythyrau, creu ymgyrchoedd cenedlaethol fel Plannu a Rhannu a Coginio a Rhannu, yn ogystal â darparu hyfforddiant a chymorth drwy bartneriaethau.
Darllenwch fwy am sut y cafodd y rhwydwaith ei adeiladu ym mlog Rheolwr Rhwydwaith y DU Dewch at Eich Gilydd.

Digwyddiadau Rhwydwaith i Ddod:
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau rhwydwaith er mwyn parhau i adeiladu ar y momentwm a ddechreuwyd drwy'r digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Gwybodaeth am ddigwyddiadau’r dyfodol i ddod yn fuan.

Gwyliwch ein digwyddiadau rhwydwaith blaenorol
Mae ein gweminarau ar-lein ar gael yma er mwyn i chi allu eu gwylio pan fydd yn gyfleus i chi - o ddatblygu rhwydwaith gwyrdd sy'n prysur ehangu gydag Incredible Education i greu basgedi crog bwytadwy gyda Groundwork Cymru.
