A group of children and adults enjoying a meal together at a community cafe

Dod o hyd i'ch llais gyda ffrindiau newydd - Birmingham

A group of children and adults enjoying a meal together at a community cafe

Dod o hyd i'ch llais gyda ffrindiau newydd - Birmingham

Roedd cwrdd â phobl hŷn a gwneud ffrindiau ag un o’r preswylwyr yn drobwynt.”

Roedd preswylwyr o gartref gofal Anita Stone Court wedi bod yn ymweld â phlant o Ysgol Gynradd Hollywood unwaith yr wythnos cyn eu digwyddiad Dewch at Eich Gilydd cyntaf. Roedd y bobl hŷn a'r disgyblion wedi ffurfio perthynas glós drwy blannu hadau, coginio, adrodd straeon a chanu.

Ar ddiwrnod eu digwyddiad Dewch at Eich Gilydd , gofynnodd un ferch fach a allai sefyll yn y blaen a chanu i bawb ar ei phen ei hun, ac fe wnaeth hynny'n hyfryd.

Wrth weld yr athrawon yn eu dagrau, cawsom wybod bod y disgybl hwn wedi treulio ei blwyddyn gyntaf yn yr ysgol yn gwrthod siarad - ddim hyd yn oed yn ateb wrth gofrestru.

“Roedd cwrdd â’r bobl hŷn a gwneud ffrindiau ag un o’r preswylwyr yn drobwynt iddi. Clywodd athrawon ei llais am y tro cyntaf yn y cartref gofal” meddai Valerie Meehan, Swyddog Ymgysylltu Rhanbarthol Dewch at Eich Gilydd yn Birmingham.

Roedd y preswylwyr yn mwynhau treulio amser gyda'r plant hefyd. Dechreuodd y rhai a oedd fel arfer yn llai cymdeithasol gymryd rhan pan oedd y plant yn bresennol. Roedd un preswylydd â dementia yn cofio'r plentyn a gafodd yn bartner iddo ar ôl y sesiynau a gofynnodd pryd y byddai’n ei weld eto.

Wedi cael eich ysbrydoli? Cofrestrwch nawr.

Yn ôl i’r brig