
Sefydliad Lamet Habayeb – Little Cooks Buliding Confidence
“Mae’n werthfawr rhannu’r ryseitiau hyn gyda diwylliannau a chymunedau eraill.”
Pan oedd Mona a Basil o Rochdale wedi cael llond bol ar y cyfnod clo cyntaf, aethant i’r gegin a gwisgo’u ffedogau.
Gofynnodd eu mam, Souhad, a oeddent eisiau dechrau gwneud fideos, a ganed Little Cooks Building Confidence.
Cysylltiad diwylliannol drwy fwyd
Ganed Basil a Mona yn y DU, ond maent am gael cysylltiad â’u treftadaeth a’u diwylliant drwy fwyd. Yn eu fideos coginio, mae’r par yn canolbwyntio ar ryseitiau traddodiadol o Balesteina, fel hwmws a ffalaffel. Dangosodd pobl ddiddordeb yn y ryseitiau traddodiadol hyn a'r cynhwysion newydd.
“Mae’n werthfawr rhannu’r ryseitiau hyn gyda diwylliannau a chymunedau eraill.”meddai Souhad.
Ac nid dim ond y ryseitiau blasus o Balesteina sy’n cyffroi’r gymuned. Tra mae’r bwyd yn coginio, mae Basil a Mona yn rhannu storïau ac yn trafod y gerddoriaeth maen nhw’n ei defnyddio yn eu fideos.
Technoleg yn creu cysylltiadau
Dechreuodd y fideos fel ffordd o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, yna, dechreuodd eu chwaer ym Mhalesteina eu huwchlwytho i YouTube a chynorthwyodd eu brawd yn Llundain gyda’r gwaith golygu. Nid yw brodyr a chwiorydd Basil a Mona erioed wedi cwrdd â nhw felly mae gweithio ar y prosiect hwn yn dod a nhw at ei gilydd - cysylltu o bell.
Cysylltiad â’r gymuned
Mae fideos coginio Basil a Mona wedi bod yn ffordd wych o gadw cysylltiad cymunedol diwylliannol drwy gydol y cyfnod clo.
Mae Souhad yn drefnydd cymunedol gyda’i chymuned Arabaidd leol - Sefydliad Lamet Habayeb - grŵp cymunedol sydd wedi gweithio’n galed drwy gydol y pandemig Covid-19 i gefnogi eu cymuned, yn arbennig y rhai hynny sy’n ynysu. Dechreuodd y teulu rannu eu fideos gyda’r gymuned.
Erbyn hyn mae cannoedd wedi gweld y fideos, ac mae hyder Basil a Mona wedi ffynnu - maent yn hynod falch ohonynt eu hunain.
Sesiynau Zoom a chreu fideos newydd
Mae Souhad yn gobeithio parhau i rannu mwy ar ôl y cyfnod clo ac yn meddwl am gynnal sesiynau coginio dros Zoom, ble mae rhieni a phlant yn coginio gyda’i gilydd ar Zoom gyda Basil a Mona.
Mae’r cynlluniau’n ymestyn y tu hwnt i’r gegin hefyd.
Mae’r teulu’n ystyried creu fideos ynglŷn â thyfu, dysgu am gylch bywyd drwy’r coed gwinwydd yn eu gardd, a blannwyd er cof am eu nain a’u taid.