15 Munud gyda Sarah Dugdale
Mae Digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn hynod falch o fod mewn partneriaeth â Sarah Dugdale, un o’r ymgeiswyr a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Masterchef 2019.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym wedi cael sgwrs gyda Sarah ar gadw gwenyn, gwneud bara a dod â phobl ynghyd.
Helo Sarah! Allwch chi sôn ychydig amdanoch chi eich hun – pryd wnaeth eich diddordeb mewn coginio a rhannu bwyd ddechrau?
Dysgais sut i goginio pan oeddwn yn ifanc iawn. Roedd fy mam yn gogyddes wych – rwy’n un o 12 o blant. Roedd fy mam yn arfer gwneud pob dim ei hun, gan gynnwys bara. Hi wnaeth ein dysgu ni i gyd i goginio.
Roedd fy mam yn wych am wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd, er bod cymaint ohonon ni. Roedd yn amser lle roedden ni i gyd yn cymdeithasu ac yn rhannu syniadau.
Pan gefais fy mhlant fy hun, agorais feithrinfa, ac fe wnaeth fy nghariad tuag at fwyd arwain at fod eisiau’r gorau i’r plant yno. Mae gennyf gefndir mewn nyrsio ac rwy’n ymwybodol o sut y gall maeth effeithio ar iechyd.
Ar ôl i fy mhlant i raddio, cefais amser i fyfyrio. Awgrymodd rhywun y dylwn i fynd ar MasterChef a datblygodd pethau o hynny.
Dilynais gwrs cadw gwenyn hefyd. Ysgogodd hynny fy niddordeb mewn sut mae bwyd yn cael ei ffermio a sut mae’n newid y blas - mae lle mae’r mêl yn cael ei ffermio yn newid y blas yn sylweddol. Mae ffynonellau eich bwyd mor bwysig!
Pam mae bwyd da mor bwysig i chi?
Yn gyntaf, rwy’n mwynhau bwyta bwyd da, felly mae’n rhaid iddo flasu’n dda. Yn ail, gall bwyd fod yn dda i’n hiechyd ni, felly mae hynny’n bwysig. Ac yn drydydd, rhaid i ni ystyried yr effaith amgylcheddol – sut mae’r tir yn cael ei ffermio a sut mae hynny’n effeithio ar yr amgylchedd hefyd. Mae defnyddio cyflenwyr lleol yn bwysig.
Pa heriau rydych chi’n credu y mae pobl yn eu hwynebu o ran cael bwyd da?
Rwy’n meddwl bod weithiau’n credu bod dewis bwyd o ansawdd da yn ddrud. Ond pan fydd bwydlenni’n cael eu cynllunio’n gywir, mae hi dal yn bosibl defnyddio cynnyrch ffres a pheidio â gwastraffu dim. Er enghraifft, os byddaf yn gwneud cinio rhost ar ddydd Sul, byddaf yn defnyddio gweddill y cyw iâr i wneud stoc a chawl.
Mae’n ymwneud ag addysg; mae llawer o bobl nad ydyn nhw’n gwybod am y pethau syml y gallwch eu gwneud. Er enghraifft, mae swmp goginio yn ffordd wych o sicrhau bod gennych brydau parod yn y rhewgell. Mae’n well i’ch iechyd oherwydd rydych yn gwybod o ble y mae wedi dod.
Beth sy’n eich cyffroi fwyaf ynglŷn â bod yn rhan o Dewch at Eich Gilydd?
Rwy’n meddwl bod defnyddio bwyd yn ffordd wych o gysylltu pobl â’i gilydd yn y gymuned, yn enwedig pan fo pobl yn unig. Mae bwyd yn lefelwr mawr.
O safbwynt cymdeithasol, bwyd yw’r allwedd i ddod â phobl ynghyd.
Beth yw eich argymhellion ar gyfer bwyd da?
Fy mhrif argymhelliad fyddai dewis cynnyrch ffres, da. Neu drefnu digwyddiad Dewch at Eich Gilydd ‘dewch â phryd’ fel nad yw’r pwysau i gyd ar un person.