Awgrymiadau gorau ar gyfer coginio gartref
Gallwch rannu’r tasgau – gellir rhoi’r rhai sydd fwyaf diogel neu y mae angen lefel is o sgiliau i’w gwneud i’r plant iau, e.e. gwasgu sudd lemwn, cymysgu cynhwysion mewn powlen, rhwygo perlysiau a dail salad.
Pan fydd cynhwysion penodol neu gynhwysion ffres yn brin, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag coginio rysáit. Nid oes angen stoc o gyfarpar cegin broffesiynol arnoch chi chwaith i ddechrau arni! Os edrychwch ar y rhestr o gynhwysion neu gyfarpar a gweld bod rhywbeth ar goll - mae’n debygol y bydd rhywbeth addas arall y gallwch ei ddefnyddio neu gallwch hepgor cynhwysyn.
Dyma ein hargymhellion defnyddiol ar gyfer gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gennych a dechrau coginio.
Cyfnewid yn lle siopa
- Defnyddio perlysiau sych yn hytrach na rhai ffres
- Newid y gymysgedd o sbeisys mewn rysáit yn dibynnu ar beth sydd gennych yn eich cypyrddau - gallech ddarganfod cyfuniad newydd sbon o flasau!
- Gellir defnyddio saws tsili neu soi yn lle halen weithiau
- Cyfnewid y caws sydd ei angen ar gyfer rysáit gyda’r hyn sydd ar gael neu, hyd yn oed yn well na hynny, gyda beth sydd gennych yn eich oergell
- Rhoi cynnig ar gyfnewid siwgr am fêl
- Defnyddio pa bynnag olew sydd gennych – os nad oes gennych olew olewydd, bydd olew llysiau yn gwneud y tro!
- Defnyddio llefrith powdr mewn sawsiau er mwyn arbed eich llefrith ffres – ond cymerwch ofal oherwydd gall losgi’n haws ar waelod y sosban.
- Rhoi llai o gig mewn ryseitiau ac ychwanegu codlysiau tun neu ffacbys wedi’u sychu. Mae ffacbys brown yn arbennig o dda i’w hychwanegu at friwgig eidion mewn ryseitiau fel Pastai Bugail neu Lasagne i wneud iddyn nhw fynd ymhellach.
- Mae cynhwysion llysiau a salad yn eithaf hawdd i’w cyfnewid mewn ryseitiau – os nad oes gennych chi lysieuyn penodol, efallai y bydd un arall yn gwneud y tro:
- Nionod/cennin/shibwns
- Sbigoglys/ysgallddail/bresych deiliog
- Ciwcymbr/corbwmpen
- Letysen/bresychen wên
- Pwmpen butternut/tatws melys
Gwnewch eich cynhwysion eich hun!
Hufen sur – ychwanegwch lwy fwrdd o sudd lemwn neu finegr gwyn at iogwrt, neu hufen a llaeth
Llaeth enwyn - defnyddiwch laeth arferol a llwy fwrdd o sudd lemwn neu finegr gwyn
Blawd codi – ychwanegwch 2 lwy de (10ml) o bowdwr codi ar gyfer pob 150g o flawd plaen a hidlwch neu chwipiwch nhw gyda’i gilydd i wneud yn siŵr eu bod wedi’u cymysgu’n dda
Yng ngenau’r sach mae cynilo
- Gwiriwch beth sydd gennych yn yr oergell, y rhewgell a’r cypyrddau a defnyddiwch y cynhwysion hynaf yn gyntaf.
- Peidiwch â thaflu darnau o fara wedi sychu. Torrwch nhw’n ddarnau 2cm, rhowch nhw ar hambwrdd pobi, rhowch ychydig o olew coginio drostynt ac ychydig o bupur/perlysiau a’u rhoi yn y popty ar dymheredd canolig nes eu bod wedi crimpio. Defnyddiwch nhw fel croutons i’w hychwanegu at salad a chawl. Neu gratiwch nhw neu eu rhoi mewn prosesydd bwyd i wneud briwsion bara i’w rhewi.
- Nid oes unrhyw beth sy’n fwy boddhaol na chreu pryd gan ddefnyddio’r hyn sydd yn yr oergell. Mae rhywbeth fel omlet Sbaenaidd yn gweithio’n dda, lle y gallwch ddefnyddio unrhyw becynnau o lysiau wedi’u rhewi sydd bron â dod i ben, llysiau ffres sy’n dod i ddiwedd eu hoes, ac unrhyw fwyd dros ben sydd gennych yn yr oergell. Mae perlysiau, sbeisys, caws a ham i gyd yn ychwanegu blas!
- Defnyddiwch ddiwedd pecynnau o geirch, hadau a chnau i wneud granola cartref – perffaith ar gyfer brecwast!
Rhaid rhewi
- Gallwch rewi tsilis, sinsir a lemonwellt ffres ac yna defnyddio dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch o’r rhewgell.
- Gallwch rewi dognau bach o sawsiau a chaserolau dros ben i’w defnyddio eto fel cynhwysion ar gyfer tatws pob. Cofiwch labelu a dyddio’r bagiau fel na fyddwch yn cael syrpréis annisgwyl (!)
- Gwnewch lond sosban fawr o gawl bob wythnos a’i gadw mewn dognau sy’n ddigon ar gyfer pawb yn y tŷ yn yr oergell neu’r rhewgell. Drwy wneud hynny, bydd rhywbeth ar gael ar gyfer cinio neu swper cyflym.
- Dyblwch y cynhwysion ar gyfer prif bryd neu eitem wedi’i bobi a rhewi ei hanner. Rhowch label arno gydag enw’r rysáit a’r dyddiad a’i gadw am hyd at 3 mis.
Annog arferion da
- Cadwch restr siopa ac ychwanegwch bethau ati wrth i bethau gael eu defnyddio – cofiwch fynd â’r rhestr gyda chi pan fyddwch yn mynd i siopa am fwyd hanfodol!
- Paratowch salad ffrwythau cynhwysfawr yn yr oergell fel byrbryd cyflym, iach i’r plant drwy gydol y dydd. Mae pobl yn fwy tebygol o fwyta ffrwythau os ydynn nhw wedi cael eu torri iddyn nhw.
Ffyrdd syml o gyfnewid cyfarpar
- Os nad oes gennych golander, gallwch ddefnyddio gogr i olchi a draenio bwyd
- Defnyddiwch botel olew neu ddiod wag fel rholbren - rhowch ddŵr ynddi i roi pwysau iddi
- Os nad oes gennych chwisg neu gymysgwr bwyd trydan, bydd llwy bren, neu chwisg safonol, yn gweithio llawn cystal, gydag ychydig o fôn braich ychwanegol ac amynedd! Mae hwn yn amser gwych i wahodd y teulu i gyd i rannu yn y gwaith o greu eich pryd.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i gynnal gweithgaredd bwyd gyda’ch cymuned? Cofrestrwch heddiw i gynnal digwyddiad Dewch at Eich Gilydd.