Mae bwyd da yn destun sgwrs gwych
**Mae ein cystadleuaeth wedi cau**
P’un a ydych yn eistedd o amgylch bwrdd neu’n bwyta byrbryd ar blatiau papur ar eich traed, mae bwyd yn ffordd wych o deimlo’n dda a chysylltu â’ch cymuned.
Mae gan lawer ohonom atgofion melys o fwyd o’n plentyndod, o fod ar wyliau, o ddiwrnodau gŵyl ac o amseroedd da yn gyffredinol.
Hoffem eich gweld yn Coginio a Rhannu yr hydref hwn, a hoffem glywed eich hoff atgofion am fwyd.
Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth i ennill gwerth £100 o dalebau offer coginio yn Lakeland
Mae’n hawdd cymryd rhan:
- Tynnwch lun o’ch gweithgaredd Coginio a Rhannu
- Rhannwch y llun ar y dudalen Cymuned Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes ar Facebook
- Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff atgof o rannu bwyd
Rhai cwestiynau i’ch helpu chi a’ch grŵp i gychwyn arni!
Beth oedd eich hoff fwyd pan oeddech yn blentyn?
Beth yw eich hoff fwyd cysur?
Oes gennych chi bryd arbennig rydych chi’n ei fwyta pan fyddwch yn dathlu rhywbeth?
Beth yw eich hoff rysáit?
Oes gennych chi gynhwysyn arbennig?
Pa fwyd sy’n eich atgoffa o gartref?
Pob lwc!
Darllenwch ein Telerau ac Amodau yma