Garddio ar gyllideb
Bydd hi’n Hydref arnom cyn bo hir, felly dyma gyfle gwych i chi estyn am eich menig garddio a dechrau clirio’r tir er mwyn paratoi ar gyfer plannu yn y gwanwyn.
Y newyddion da yw na ddylech chi orfod prynu dim. Byddwch yn cael eich synnu faint y gallwch ei wneud yn yr ardd gydag ychydig neu ddim arian drwy fod yn greadigol gyda beth bynnag sydd wrth law.
Dyma ein canllaw i arddio ar gyllideb i bobl o bob oed.
1. Gallwch dyfu planhigion mewn unrhyw beth
Oes gennych chi bâr o hen esgidiau glaw yng nghefn y sied? Rhowch fywyd newydd iddyn nhw drwy blannu mefus ynddynt. Neu beth am ofyn i’ch ystâd ddiwydiannol leol am ambell balet sbâr a’u troi’n erddi perlysiau? Mae hyd yn oed bagiau Ikea yn wych i blannu ynddyn nhw. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd o ran cynwysyddion.
2. Trefnwch ddigwyddiad cyfnewid hadau yn eich cymuned
Threfnwch ddigwyddiad rhannu hadau yn eich cymuned leol. Mae prynu pecynnau o hadau yn gallu bod yn ddrud, a bydd nifer o arddwyr brwdfrydig yn cynaeafu’r hadau o’u cnydau ar gyfer y tymor nesaf.
3. Mae’r gwrtaith gorau am ddim
Mae pridd o ansawdd sy’n llawn maeth yn cynnwys llawer o ddeunydd organig - sef yr holl groen tatws, plisgyn wyau, gweddillion ffa coffi sy’n cael eu taflu. Defnyddiwch y rhain i wneud eich gwrtaith eich hun heb wario ceiniog.
4. Gwnewch eich system ddyfrhau eich hunan
Gwnewch yn siŵr bod eich planhigion yn cael eu dyfrio drwy wneud tyllau mewn poteli plastig i greu system ddyfrhau. Mae hyn hefyd yn syniad da ar gyfer ailddefnyddio plastig tafladwy.
5. Hambyrddau hadau
Gall blwch wyau gwag un person fod yn hambwrdd hadau i berson arall. Mae rholiau papur toiled o’r maint a’r siâp perffaith ar gyfer eginblanhigion hefyd. Ac os oes angen mwy arnoch chi, gwnewch botiau papur o bapur newydd wedi’i ailgylchu.
6. Gofynnwch am bethau ail-law
Bydd nifer o arddwyr wedi casglu llawer mwy o offer garddio nag y byddan nhw’n gallu eu defnyddio, ac mae’r rhai dros ben yn cael eu claddu yng nghefn y sied a’r garej. Anogwch rieni, neiniau a theidiau a’ch cymuned leol i glirio a rhoi offer a deunyddiau garddio sbâr at achos da. Mae’r offer hŷn yn aml yn fwy cadarn ac o ansawdd gwell, sy’n golygu eu bod yn para’n hirach.
7. Chwiliwch am gynnalbrennau
Os ydych yn tyfu ffa neu bys neu unrhyw blanhigion dringo eraill, mae angen eu cynnal. Yn hytrach na siopa am fambŵ, ewch i chwilio am gynnalbrennau. Dylid edrych am goed cyll a choed eraill a llwyni sydd â choesau hir, syth ar lawr y goedwig.
Rhannwch eich syniadau
Oes gennych chi eich ffyrdd eich hun o fod yn ddarbodus gyda’ch cewyll ffrwythau neu’n gynnil gyda’ch gwrtaith? Tagiwch ni ar Twitter neu Facebook @SAFoodforLife. Peidiwch ag anghofio defnyddio’r hashnodau #GrandparentGardeningWeek a #FFLGetTogethers
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli? Cymerwch ran mewn gweithgaredd Dewch at Eich Gilydd heddiw!