Y Tîm Dewch at eich Gilydd yn mwynhau Cinio Mawr (rhithwir)
Trefnodd Ann Ward, Swyddog Ymgysylltu Rhanbarthol Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yng Ngogledd Iwerddon, Ginio Mawr (Rhithwir) ar gyfer y tîm.
Roedd yn hyfryd lansio dathliadau’r Cinio Mawr (Rhithwir) ddydd Gwener gyda chydweithwyr o’r tîm Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes.
Gan ein bod ni i gyd wedi bod yn cwrdd o bell ers dechrau’r cyfnod clo, roedd yn gyfle gwych i rannu bwyd a chysylltu ag aelodau eraill y tîm yn y ffordd hon. Fe wnaethom rannu storïau dros ginio ac atgofion am fwyd da.
Ein synhwyrau, yn enwedig ein synnwyr arogli, yw ein prif ffordd o hel atgofion am ein profiadau o fwyd. Roedd yn hyfryd iawn rhannu storïau am atgofion o fwyd o’n plentyndod a’r cysylltiad â natur drwy fwyd.
Llysiau rhost blasus a grëwyd gan Dianne, Rheolwr Rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes Gogledd Iwerddon.
I ginio, cefais fara soda gydag olewydd tsili, tomatos, brenhinllys a chaws Cheddar wedi’i doddi gyda salad o’r ardd, brenhinllys, mibwna a miswna (dail salad sbeislyd hyfryd o Japan), berwr dŵr, sbigoglys, suran Ffrengig, cennin syfi a berwr y gerddi gyda siytni planhigyn wy a leim, a betys a marchruddygl a wnaed gan fy ffrind Iain.
Mae fy ngardd yn wledd i’r synhwyrau ar hyn o bryd - mae’n gyffrous bod fy mefus ar fin aeddfedu. Ers i mi ymuno â’r tîm ym mis Ionawr, rwyf wedi cael fy ysbrydoli i dyfu mwy o fy mwyd fy hun ac rwyf wedi cael rhywun i osod gwelyau wedi’u codi.
Rwy’n mwynhau nifer o sesiynau cyfnewid planhigion gyda chymdogion a ffrindiau, sydd i gyd yn ychwanegu at y profiad o faethu. Rwyf hefyd wedi gwneud fy ngwrtaith hylif fy hunan gyda dalan poethion a llysiau’r cwlwm o fy ngardd.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli? Cymerwch ran mewn gweithgaredd Dewch at eich Gilydd!