Children gardening with their grandparents at Battling Brook primary school

Ydych chi erioed wedi ystyried sut y dechreuodd yr Wythnos Garddio i Neiniau a Theidiau?

Ydych chi erioed wedi ystyried sut y dechreuodd yr Wythnos Garddio i Neiniau a Theidiau?

Ysgol gynradd Battling Brook, Swydd Gaerlŷr, 2015. 

 

“Rhan o Raglen Ysgolion Bwyd am Oes oedd annog ysgolion i arddio. Ond roedd diffyg hyder, gwybodaeth ac amser i greu gardd - dyma oedd yr adborth gan yr athrawon. Ni fyddai’n bosibl cynnwys rhieni oherwydd eu hamserlenni gwaith. Felly fe wnaethom greu ateb gwahanol. Roedd gan un ysgol nain neu daid a oedd yn cefnogi’r ardd eisoes, a gwelsom hynny a phenderfynu mai dyma’r ateb,” meddai Raksha Mistry, ac felly dyma esgor ar ddigwyddiadau’r Wythnos Garddio i Neiniau a Theidiau mewn ysgolion ledled y wlad.   

 

Cafwyd adborth annisgwyl gan y neiniau a’r teidiau hefyd, gydag un nain yn dweud “Fel arfer, rydym yn cael ein gwahodd i ddigwyddiadau yn yr ysgol pan fydd y rhieni yn methu mynd, felly roedd yn hyfryd bod yn ddewis cyntaf yn hytrach nag yn rhywun wrth gefn. Gwnaeth hyn i ni deimlo’n arbennig.” Fe wnaethom sylweddoli pa mor bwerus y gallai gwaith sy’n pontio’r cenedlaethau fod. 

 

Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac mae disgwyl i 90 o neiniau a theidiau droi i fyny yn Battling Brook i ddechrau palu.   

 

Mae’n golygu mwy na dim ond garddio. Bydd gweithgareddau coginio yn cael eu cynnal hefyd ac, yn anad dim, bydd disgyblion yn cael cyfle i dreulio amser gwerthfawr gyda phobl hŷn. Nid oes gan rai plant neiniau a theidiau sy’n byw’n agos ac maen nhw’n mwynhau treulio amser gyda’r bobl hŷn sy’n dod i helpu. 

 

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys plannu bylbiau a fydd yn blodeuo ac yn dod yn addurniadau, chwynnu a chasglu riwbob. Bydd y grŵp coginio yn paratoi crymbl ffrwythau gan ddefnyddio mwyar wedi’u rhewi o gnwd y llynedd a’r riwbob ffres hwnnw, wrth gwrs. 

 

Gall y neiniau a’r teidiau a’r plant fynd â’r crymbl gartref gyda nhw i’w fwynhau ar ddiwedd y dydd, ond nid cyn cael paned o de a byrbryd haeddiannol – dyma gyfle i eistedd i lawr a chael sgwrs ar ôl diwrnod prysur yn yr ardd.  

 

Meddai Katie Pickering, un o’r athrawon sy’n gyfrifol am sefydlu’r Wythnos Garddio i Neiniau a Theidiau, “Mae bob tro’n hyfryd gweld wynebau hapus pawb. Mae’r neiniau a’r teidiau’n dangos eu harbenigedd ac mae’r plant eisiau dangos ein gardd iddyn nhw. Mae rhoi’r amser hwn iddyn nhw mor bwysig. 

 

Maen nhw bob tro’n mynd â phlanhigyn ffa adref i ofalu amdano. Yna, mae rhai neiniau a theidiau wedi coginio gyda’u hwyrion neu wyresau gan ddefnyddio’r ffa!”  

 

Awgrym gwych Katie yw gofyn i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ddod i mewn i gynorthwyo gyda gweini te a choffi.   

 

Cynlluniwyd yr Wythnos Garddio i Neiniau a Theidiau hon cyn i’r pandemig Covid-19 ddigwydd ac i’r rheolau pellter cymdeithasol gael eu rhoi ar waith.  

 

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli? Trefnwch weithgaredd Dewch at Eich Gilydd yn eich cymuned heddiw.  

Postiwyd Gan

ymlaen Dydd Mercher, 16 Medi 2020 yn bwyd

Yn ôl i’r brig