A woman in a face mask handing out plants to community members

Generations Working Together

Generations Working Together

Prif amcan Generations Working Together (GWT) yw gweithio tuag at greu Alban decach lle mae pobl o bob oedran, ond yn enwedig pobl ifanc a phobl hŷn, yn cydweithio i herio stereoteipiau, meithrin cydlyniad cymdeithasol a pharch at eraill a methrin cymunedau cryfach sy’n seiliedig ar asedau ei holl aelodau.

Mae GWT wedi datblygu rhwydweithiau lleol sy’n pontio’r cenedlaethau, cyfleoedd hyfforddi a llyfrgell o ddeunyddiau/adnoddau i gefnogi ac ysbrydoli sefydliadau a phartneriaid i gymryd camau gweithredu a gwella eu harferion er mwyn pontio’r cenedlaethau. Yn ein rôl o fewn y prosiect Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, rydym yn hysbysu'r rhwydwaith GWT yn yr Alban drwy rannu gwybodaeth am y prosiect mewn cyfarfodydd rhwydwaith lleol a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan. Mae GWT yn gweithio’n agos gyda’r ardaloedd profi a dysgu a nodwyd yn yr Alban (Caeredin, Glasgow ac Inverclyde) i gynnal 3 o ddigwyddiadau’r rhwydwaith bwyd bob blwyddyn. Mae GWT wedi cydweithio i lunio a darparu cwrs a llyfryn hyfforddi ac mae’n gweithio gyda thîm y prosiect Dewch at eich Gilydd ar hyn o bryd i edrych ar ddulliau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth a hyfforddiant.

Darganfod mwy

Yn ôl i’r brig