Esgidiau Glaw Mefus
Gallwch ddefnyddio hen esgidiau glaw i blannu mefus!
Cnwd cyffrous i'w dyfu, gyda blodau gwyn del yn blodeuo cyn i'ch holl ymdrechion gael eu gwobrwyo gyda ffrwythau blasus - mae'r planhigion hyn yn dda i wenyn ac yn flasus i'w bwyta!
Yr adnodd hwn yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau tyfu mefus a pheidiwch â phoeni os nad oes gennych esgidiau glaw sbâr, gallwch ddefnyddio potyn plannu traddodiadol neu bot arall wedi'i ailgylchu.