-
Ysbrydoliaeth i Dyfu Bwyd mewn Mannau Trefol
Grŵp garddio ffyniannus yng Nghaerlŷr yw Urban Gardeners. Mae sawl aelod o’r grŵp yn agored i niwed. Mae wedi llwyddo i drawsnewid mannau gwyrdd yn rhandiroedd, gan dyfu digonedd o fwyd tymhorol, i’w rannu â’r gymuned. Mae’r astudiaeth achos hon yn rhoi ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer tyfu bwyd mewn mannau trefol, ble y gall mannau gwyrdd fod yn gyfyngedig.
Mae tyfu bwyd a phlanhigion yn ffordd wych o baratoi ar gyfer eich gweithgaredd Dewch at eich Gilydd nesaf gyda ffrwythau, llysiau neu berlysiau rydych wedi’u tyfu eich hun.
Dyma rai syniadau a chanllawiau ar gyfer gweithgareddau i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Dechreuwch arni!