
Tsili Ffa a Chorbys
Mae’r rysáit Coginio a Rhannu hwn yn berffaith ar gyfer diwrnod hydrefol neu hyd yn oed i ddathlu noson tân gwyllt. Efallai yr hoffech ddefnyddio rhai o’r llysiau rydych wedi’u tyfu eich hun os oes gennych randir, gardd mewn ysgol neu wedi cymryd rhan yn Plannu a Rhannu. Gallech baratoi’r llysiau cyn y sesiwn os bydd angen, er mwyn i bobl o unrhyw allu neu oedran gymryd rhan.