Synnwyr Bwyd Cymru
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn seiliedig ar Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd sydd wedi ennill sawl gwobr ac a sefydlodd y Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
Rydym yn darparu rhaglenni arloesol fel Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy, Pys Plîs, Nerth Bwyd a Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes. Gan feithrin y dull ‘eirioli drwy esiampl’, rydym yn canolbwyntio ar ganfod atebion y gellir ymarferol drwy brofiad ar lawr gwlad a llais y dinesydd, ac yn defnyddio’r rhain i eirioli’n effeithiol dros y newidiadau sydd angen eu gwneud i bolisi lleol a chenedlaethol i lunio system fwyd deg a chynaliadwy.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Cymru ar gyfer Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Deieteg a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sefydlu Digwyddiadau Dewch at eich Gilydd o fewn lleoliadau a rhaglenni lleol a chenedlaethol.