Cawl, myffins a ffilmiau yn ystod Mis Coginio a Rhannu

Cawl, myffins a ffilmiau yn ystod Mis Coginio a Rhannu

Mae ymgynnull o amgylch bwrdd i rannu bwyd da ac i sgwrsio yn rhywbeth mor syml ond mae effaith hynny ar fywydau pobl yn amhrisiadwy.”

Yn y rhaglen Dewch at Eich Gilydd, gwyddom fod gan fwyd da y gallu i ddod â phobl at ei gilydd – i greu cyfeillgarwch newydd ac i gryfhau cysylltiadau. Dyna pam rydym yn lansio Mis Coginio a Rhannu yr hydref hwn.

Grŵp cymunedol ffyniannus o Swydd Gaer yw Incredible Edible, Handbridge. Bu’n cynnal digwyddiadau Coginio a Rhannu yn rheolaidd ers iddo gael cyllid hanfodol fel rhan o’n rhaglen Grantiau Bach. Roedd ei ddigwyddiadau cawl a ffilm hydrefol yn llwyddiant ysgubol ymysg y trigolion, gan ddenu teuluoedd o bob oedran a chefndir.

Mae dros 50 o bobl wedi cofrestru ar gyfer ei ddigwyddiad nesaf. Bydd Incredible Edible Handbridge yn gweini powlen o gawl cartref, iach i gynhesu’r galon gyda myffins perlysiau. Wrth lenwi eu boliau, bydd cyfle i’r grŵp fwynhau ffilm, sy’n dangos pa mor bwysig yw gwenyn i’r amgylchedd a’r bwyd rydym yn ei fwyta.

Ar ben hynny, bydd yn cynnig cynnyrch am ddim o’i randir llysiau, gweithgareddau i blant a chyfle i drafod cynlluniau ar gyfer 2022.

Meddai Lisa Rossetti o Incredible Edible Handbridge: “Mae hwn yn gyfle perffaith i gyfarfod, yn enwedig ar ôl i bawb deimlo mor ynysig yn ystod y pandemig. Mae ymgynnull o amgylch bwrdd i rannu bwyd da a chael clonc yn rhywbeth mor syml i’w wneud ond mae effaith hynny ar fywydau pobl yn amhrisiadwy. Mae mynd allan i gyfarfod pobl yn hollbwysig i’n hiechyd, waeth beth fo’n hoedran, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Mae 90% o drefnwyr digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd yn cytuno bod eu gweithgareddau wedi creu cyfeillgarwch, a chefnogi iechyd a llesiant pobl hefyd. Mae Mis Coginio a Rhannu yn gyfle delfrydol i ddod â phobl at ei gilydd i gael bwyd da ac i sgwrsio, hyd yn oed os mai chi fydd yn gweini’r cawl neu’n arllwys y te.

Gallwch ein helpu i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau yr hydref hwn. Cofrestrwch eich gweithgaredd Coginio a Rhannu yma.

Digwyddiadau Diogel o ran Covid

I gael y canllawiau diweddaraf am gynnal digwyddiad diogel o ran Covid, edrychwch ar ein tudalen  ganllawiau yma.

Yn ôl i’r brig