Pecyn Cymorth Coginio a Rhannu
-
Gweithgareddau Mis Coginio a Rhannu i’r teulu yn ystod Hanner Tymor
Mae gwyliau Hanner Tymor yn adeg wych i deulu a ffrindiau gymryd rhan mewn weithgareddau yn seiliedig ar fwyd yr hydref. Dylai’r tywydd ddal i fod yn ddigon cynnes i fynd allan, a gallwch gyfuno gweithgareddau sy’n helpu bywyd gwyllt a phryfed peillio gyda gweithgareddau dan do megis coginio a rhannu bwyd da - efallai i ddathlu’r Cynhaeaf, Noson Tân Gwyllt, Diwali neu Galan Gaeaf -
Tsili Ffa a Chorbys
Mae’r rysáit Coginio a Rhannu hwn yn berffaith ar gyfer diwrnod hydrefol neu hyd yn oed i ddathlu noson tân gwyllt. Efallai yr hoffech ddefnyddio rhai o’r llysiau rydych wedi’u tyfu eich hun os oes gennych randir, gardd mewn ysgol neu wedi cymryd rhan yn Plannu a Rhannu. Gallech baratoi’r llysiau cyn y sesiwn os bydd angen, er mwyn i bobl o unrhyw allu neu oedran gymryd rhan.