Adnoddau am wenyn

Adnoddau am wenyn

Yn yr adnodd Plannu a Rhannu hwn byddwn yn dysgu am y gwahanol rywogaethau cyffredin o wenyn sydd yn y DU, y gwaith maen nhw'n ei wneud yn ein byd naturiol a phethau syml y gallwn eu gwneud i'w helpu i gyflawni eu rôl bwysig ym mioamrywiaeth ein planed.

Rydym wedi creu tri adnodd newydd.

Gwenyn, Bioamrywiaeth a pheillio

Rydym yn gwirioni ar wenyn yn ystod mis Plannu a Rhannu eleni. Mae’r pryfed hynod glyfar hyn yn helpu i beillio traean o’n bwyd ac yn yr adnodd hwn, rydym yn dysgu popeth am fioamrywiaeth, beth yw peillio a’r gwahanol fathau o wenyn sydd i’w cael yn y DU.

Lawrlwythwch yr adnodd yma

Adnabod Gwenyn

Eisiau gwybod y gwahaniaeth rhwng cacwn a gwenyn mêl a dysgu ble mae gwenyn yn nythu? Dyma gliw i chi - nid mewn cwch gwenyn maen nhw'n nythu bob tro! Yna edrychwch ar yr adnodd adnabod gwenyn hwn, mae’n dod gyda thaflen waith fel y gallwch fynd i grwydro hwnt ac yma yn ystod mis Plannu a Rhannu i ddarganfod y gwenyn yn eich ardal leol.

Gallwch gael eich pecyn adnabod gwenyn yma

Ffeithiau am wenyn

Nawr rydym wedi dysgu am y mathau o wenyn yn y DU ac am fioamrywiaeth a pheillio mae'r adnodd nesaf yn ein helpu i ddysgu sut y gallwn ni i gyd ofalu am wenyn a'u helpu. Yn ogystal â hynny, mae’n orlawn o ffeithiau hwyliog am wenyn a fyddai’n ddelfrydol ar gyfer clwb ar ôl ysgol, gwers neu glwb.

Lawrlwytho taflen ffeithiau am wenyn

Yn ôl i’r brig