Popeth sydd ei angen arnoch i drefnu eich gweithgareddau Mis Plannu a Rhannu:
Pecyn Cymorth Plannu a Rhannu
Mae pedair thema allweddol i'r Mis Plannu a Rhannu, gydag adnoddau ac awgrymiadau defnyddiol bob wythnos i gefnogi eich gweithgareddau tyfu:
Wythnos Un: 22 — 28 Ebrill — Tyfu i Bawb
Mae Plannu a Rhannu yn ymwneud â thyfu eich bwyd eich hun yn hawdd ac yn hygyrch i bawb, o dyfwyr tro cyntaf i drefnwyr cymunedol.
Wythnos Dau: 30 — Ebrill - 5 Mai — Tyfu i Fwyta
Gyda chostau bwyd yn cynyddu, gall tyfu bwyd fod yn ffordd syml a hwyliog o fwynhau bwyd da. P'un a ydych chi'n tyfu tomatos ar eich silff ffenestr, neu fefus mewn hen gynhwysydd, mae gennym lu o adnoddau gwych i helpu.
Wythnos Tri: 6 Mai — 12 Mai - Tyfu ar gyfer Llawenydd
Gall mynd allan yn yr ardd wneud rhyfeddodau i'ch lles. Mae'r wythnos hon yn ymwneud â thyfu planhigion hardd i ddod â lliw a bywyd gwyllt i'ch iard gefn neu wely llysiau. Beth am dyfu blodau hardd i ddathlu'r Coroni, neu roi help llaw yn eich cymdogaeth gyda’r Big Help Out?
Wythnos Pedwar: 13 — 20 Mai — Tyfu dros Natur
Mae gwenyn, chwilod a bywyd gwyllt arall yn arwyr byd natur, gan helpu i gynhyrchu'r bwyd rydym yn ei fwyta. Mae tyfu rhai planhigion sy'n gyfeillgar i natur yn ffordd wych o wneud eich rhan dros y blaned.